Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthod

wrthod

Der o'na!' Pwy a allai wrthod taerineb yr ymbil?

Mewn rhai ardaloedd byddent yn cydweithio'n glos â'r streicwyr trafnidiol, er enghraifft, gan wrthod trin nwyddau wedi'u pardduo.

Mae gwesty yng ngogledd Cymru wedi gwyrdroi polisi dadleuol o wrthod caniatau i'w staff siarad Cymraeg.

Yn y sefyllfa honno yr oedd Rondol yn yr hanes gan Pitar Wilias, ar wahan mai enwau dychmygol a ddefnyddiodd o yn ei ddarlith oherwydd i 'nhaid wrthod rhoi caniatad iddo ddefnyddio ei enw fo a Nain, ac am y tro cynta dyma gyfle i chi gael y stori fel yr oedd.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach carcharwyd Kevin O'Kelly, gohebydd Radio Telefis Eireann, am wrthod cadarnhau, mewn llys yn Nulyn, mai Sean MacStiofain -- y gwr ar brawf - oedd yr un y bu'n ei gyfweld ar gyfer ei raglen radio.

Beth bynnag arall oedd ym meddyliau'r seneddwyr wrth basio deddfau o'r fath, y mae'n amlwg eu bod am ysbeilio'r Gymraeg a'r Wyddeleg o unrhyw statws cyfreithiol ac i wrthod unrhyw le iddynt ym mywyd gwleidyddol Cymru ac Iwerddon.

Pryderu rhag ofn iddi hi wrthod mynd ato'n ôl.

Mae Gadaffi yn honni iddo wrthod caniata/ u i'w rieni adael eu pabell hyd nes bod pawb arall yn Libya wedi cael cartref.

'Doedd gen' i mo'r iau i wrthod ac mi es.

Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam.

Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllheli% yn gywir.

Cynnig gan y Grwp Addysg yn condemio Rod Richards am wrthod hyd yn oed i dderbyn y ddeiseb yn galw am Ryddid i Gymru mewn Addysg.

Yn yr ysgolion newydd, pwnc dewisol oedd iaith fodern, i'w dderbyn neu ei wrthod ar ddiwedd y drydedd flwyddyn (fel pob pwnc arall ac eithrio Saesneg a mathemateg).

Ond ychydig oriau'n ddiweddarach ymddangosodd y Gweriniaethwr George W Bush ar y teledu, gan wrthod y cynnig.

Ond mae rhai yn dweud y dylen nhw wrthod yr iawndal hwn rhag ymddangos yn rhy ariangar.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Galwyd ar i ysgolion Cymru i wrthod pwysau newydd eleni gan y Toriaid i optio allan o'r gymuned leol ac i mewn i reolaeth uniongyrchol gan y Toriaid a'u Quangos.

Yn ôl y garfan Ymneilltuol, yr oedd yr Eglwys wedi peidio â bod yn Eglwys i'r Cymry oherwydd iddi wrthod darparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Gwnaethon ni wrthod cymryd rhan yn arolwg rhagfarnllyd Cyngor Ceredigion.

Yr oedd y perchennog yn awr wedi gwneud cais i'r Cyngor ddiddymu'r Rhybudd Cau ond argymhellodd wrthod y cais.

Mae tynnu dirwyon o fudd-dal yn gam newydd gan y Wladwriaeth ac yn dangos nad oes gan berson di-waith yr hawl hyd yn oed i wrthod talu dirwy.

Cael clwt gan ambell un, ond cael ei wrthod yn amlach; cael ei wrthod yn serchog gan ambell un oherwydd gwir brinder cerrig, cael ei wrthod yn oer gan y llall, a'i wrthod yn ffals gan un arall crintachlyd.

Ni fyddai neb byth yn meiddio ei wrthod roedd hanes am rai yn gwneud hynny flynyddoedd maith yn ôl ac roedd y rheiny wedi dioddef sawl anffawd a phob mathau o ddamweiniau yn fuan wedi hynny.

Dangosir cadernid cariad Enid nid yn gymaint yn ei geiriau wrth wrthod ymgais Iarll Limwris i ennill ei llaw ond yn fwy fyth yn ei ffydd yn Gereint a hithau wedi dioddef cymaint o gam ganddo, 'a dodi

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Rhaid i'r Cynulliad wrthod y pwysau ac adeiladu ein Trefn Addysg ein hunain yng Nghymru.

a) wrthod unrhyw ffurf ar ddeuoliaeth, y syniad am ddemiwrg materoliaeth yn erbyn gwir Dduw yr ysbryd;

Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith.

Yr unig un o'r penaethiaid i wrthod ymuno yn y brotest oedd Dr Routh, Coleg Magdalen, ac efô oedd yr unig un ohonynt a oedd yn wir hyddysg mewn diwinyddiaeth.

Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

Yr siarad yn lleol yw i Cura droi ei gefn ar ei wlad ei hun ar ôl cael ei wrthod ar gychwyn ei yrfa ym Muenos Aires.

Tybed a oes gan y cyfrandalwr cyffredin hawl i wrthod talu cyfraniad helaeth i goffrau'r Toriaid, Cyfrandalwyr Bass Charrington er enghraifft.

Argymhellodd wrthod y cais.

Nid hynny chwaith mo'r rheswm dros wrthod cynllun Lerpwl.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon llythyr heddiw at y Prif Ysgrifennydd, Rhodri Morgan yn cyhdo'r Cynulliad Cenedlaethol o fradychu'r Gymru wledig trwy eu penderfyniad i wrthod apel rhieni Bwlchygroes Sir Benfro, i gadw eu hysgol ar agor.

Dylai'r Cynulliad wrthod y pwysau sydd oddi wrth y Toriaid, prifathrawon rhai ysgolion mawr ac eraill yn Lloegr am ddosrannu cyllidebau'n uniongyrchol i ysgolion gan dorri allan Awdurdodau Lleol.

Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Mynd yn wylaidd neu wrthod heb ystyried dim mwy.

Byddai'r Sun a'r Express a'r Mail, (sydd, fe gofiwch, yn dweud mai'r Saesneg ddylai fod yn iaith swyddogol Ewrop) y papurau a ddarllenir gan filiynau lawer, yn gwneud eu gorau glas i berswadio pawb i wrthod unrhyw beth "estron".

Digon yw dweud imi wrthod yr awgrym.

Wrth olygu, bydd ychydig o'r deunydd sydd wedi ei ffilmio yn cael ei wrthod ond bydd y gweddill cael ei dorri'n llythrennol a'i lynu at ei gilydd mwyn gwneud y cynhyrchiad gorffenedig.

Fel cam tuag at sicrhau hyn galwn ar y byd addysg yn y sir i wrthod cyd-weithio â'r Prif Swyddog Gweithredol ac unrhyw Ofalwr o Loegr a benodir i'w rheoli.

Rhyw fis yn ôl, cefais wahoddiad na allwn ei wrthod.

Ond ni allai Harri ddygymod â'r meddwl o wrthod gwahoddiad ei feistr tir.

Nid rhywbeth i'w wrthod oedd cyfle i reidio, hyd yn oed os oedd trychineb yn amlwg yn y llyfrau form.

Cafwyd sgwrsio a chwerthin a chanu - i gyd yn amlwg wrth fodd Dilys, cymaint felly fel iddi wrthod yn lân - gadael y cwmni pan awgrymodd Merêd tua hanner nos ei bod yn amser noswylio.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Canfu ddial Ernest am iddo wrthod rhoi benthyg ei farch iddo.

Oherwydd i'r Almaen wrthod parchu niwtraliaeth gwlad belg, erbyn Awst 4, 'roedd Prydain wedi ymuno â'r rhyfel.