Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthododd

wrthododd

Mae'n hollol wir na wrthododd hithau roi croeso i bob math ar ymwelwyr, a i bod yn dal i wneud hynny, gan fod sylltau'r Portobello Road yn union yr un fath â rhai Knightsbridge pan gyrhaeddant goffrau'r gorfforaeth.

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Ar ddiwrnod cynta'r ffilmio; fe wrthododd ganiatâd inni ffilmio murlun anferth o Che Guevara yn Sgwâr y Chwyldro, gan esbonio fod y llun ar ochr pencadlys gwasanaethau cudd y wlad.

Pan ddaeth Kitchener Davies yn gynta' yn y gystadleuaeth sgrifennu drama drigain mlynedd yn ôl, fe wrthododd y beirniaid roi'r wobr iddo.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Digiodd yn arbennig pan wrthododd ei gwr roi sedd iddi yn y cabinet.

Yr oedd yr ychydig a wrthododd roddi gwasanaeth milwrol yn y rhyfel hwnnw wedi dioddef dirmyg ac erledigaeth, a charchar gan amlaf.