Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wrthwynebiad

wrthwynebiad

Y feistres oedd y mistir yn y lle yma." (Rhyw chwerthin isel fan yma a rhai sylwadau, a barai i Meinir grawcian rhyw air o wrthwynebiad.

Pasiwyd y penderfyniad heb lawer o wrthwynebiad, a dyna ddechrau ysgol y gwaith yn y lle.

Er bod yna wrthwynebiad i'r ardd ymhlith y trigolion lleol sydd wedi gweld cynydd yn y lefelau o draffig, dywedir bod y cynllun wedi dod â £10m i'r economi.

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Maen ymddangos yn debyg fod penodiad hyfforddwr Cymru, Graham Henry, yn hyfforddwr Llewod 2001 gam yn nes wedi i brif weithredwr Auckland, Geoff Hipkins, ddweud na fyddai gan y clwb yn Zeland Newydd wrthwynebiad petae Henry yn derbyn y swydd.

Yn araf, araf ac yntau'n rhoi ambell sblash o wrthwynebiad â'i gynffon ac yn dangos dyfnder ochr arian a sgleiniai yn y tywyllwch, tynnais ef dros y rhwyd - a'i chodi .

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Cyflwynwyd yr argymhelliad hwnnw i'r Pwyllgor Gwaith a derbyniwyd ef yn ddi-wrthwynebiad yno.

Canlyniad hyn yw y medr yr awdurdodau gyflwyno pob math o reolau newydd, megis gofyn i athrawon dagw ffeil bersonol ar bob un o'u disgyblion, gan wybod na fydd unrhyw wrthwynebiad o du'r athrawon rhag ofn i hynny gael ei ddehongli fel amharodrwydd i fod yn driw i'r cyfansoddiad.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

"Mae Stiwart wedi'n gwadd i gael cinio gydag e a Meri fory, os nad oes gennych chi wrthwynebiad," meddai Tom, cyn paratoi at fynd i'w wely - neu 'n hytrach, ei soffa.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

Ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad i gymhwyso'r un egwyddor at gartref y Cymro.

Yr oedd y feirniadaeth yn gywir: ychydig iawn o wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio a gawsid gan y cynghorau, ac yr oedd yn hawdd i'r awdurdodau ateb pob protest gan gorff gwirfoddol drwy ddweud nad oedd gwrthwynebiad oddi wrth gynrychiolwyr etholedig y bobl.

Y mae'n amlwg oddi wrth ei eiriau fod gan yr Archesgob gryn wrthwynebiad i'r cyfieithiadau hyn.

Mae ei wrthwynebiad i'r gair 'blonag' yn ogleisiol.

Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol.