Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.
Wrth wthio'n ffordd drwy'r swyddogion ac eistedd i lawr yn y neuadd o flaen Heng Samrin, fe ddaeth hi'n amlwg nad oedden ni'n twyllo neb, achos dirprwyaeth o Sri Lanka oedd y bobl o flaen ac wrth ochr yr Arlywydd.
"Wyddost ti be?" Plygodd ymlaen i wthio'i gwallt oddi ar ei thalcen.
A brysia!' ychwanegodd gan wthio ei frawd at y beic.
Ond roedd yn ymyl yr hollt erbyn hyn ac yn barod i wthio drwodd.
Er mwyn gwneud hynny, y mae hi'n ei wthio i droi at ran arall, uwch, ohono'i hun, sef yr Hunan, neu'r Uwch-ego, dan yr enw Arthur.
Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.
Er i aelodau a swyddogion y gell fod yn sensitif iawn i ddymuniadau yr aelodau hynny oedd yn gweithio yn y Llyfrgell penderfynwyd mynd ati i wthio'r cwch i'r dr gyda llythyr agored yn y Wasg.
"Fedra i ddim bwyta yr un briwsionyn arall," meddai'r cardotyn ymhen hir a hwyr, gan wthio'i gadair oddi wrth y bwrdd.
'Rhywbeth bach gynnon ni i gyd ichi gadw i chi'ch hun, Elfed,' meddai hi gan wthio'r pecyn seimlyd dan ei drwyn.
Gafaelodd yn Gary gerfydd ei wddf a'i wthio yn erbyn un o waliau'r toiled.
Rhaid inni wthio ymlaen dros Drefn Addysg i Gymru, Deddf Eiddo, ac ie, Deddf Iaith Gyflawn Gref.
Fe gei di wthio'r bygi a ga i ddal tennyn Cli%o,' eglurodd yn ansicr.
Serch hynny, mae yna dystiolaeth mai cael ei arwain, os nad ei wthio, i freichiau'r Rwsiaid oedd tynged Fidel, yn hytrach na dilyn ideoleg bersonol.
Erbyn hyn roedd breichiau pawb yn dechrau brifo ac roeddynt oll, o hir wthio, yn hynod sychedig.
Neidiai ar ei draed a cheisiai wthio'r muriau yn eu hôl i'w lle, ond nis gallai.
Yn anffodus, nid yw'r fath sicrwydd am destun y Gododdin i'w gael, ac fe allai'r cyfeiriad at Arthur fod wedi ei wthio i mewn iddo yn ddiweddarach.
Drws troi oedd o a chafodd drafferth i wthio trwyddo, ond wedi llwyddo, yn reddfol, tynnodd ei het fel pe bai wedi cyrraedd y capel.
Taswn i heb weithredu mi faswn i'n derbyn yn dawel y math o ddyfodol addysgol mae'r Blaid Dorïaidd yn ei wthio ar Cai, ei ffrindiau, a holl blant a phobl ifanc Cymru.
Teimlodd y nerfusrwydd yn ei adael fel dŵr yn llifo oddi arno, ond rhoddodd Bilo ei law ar ei ysgwydd a'i wthio'n ôl yn ddigon diseremoni i'w sedd.
Fe'i trodd Hector yn ffranciau Ffrengig, a theimlo'n eithaf gwalch wrth wthio'r arian papur i'w waled at hynny a oedd yno eisoes.
Bid siwr, mae'r cwmni yn benderfynol i wthio'i nwyddau i ganol y plot!...
Ac yna, gan fod Dad mewn cystal hwyliau gofynnodd: 'Dad, wnei di wthio'r bygi am 'chydig.
Ond efalai fod rhai ohonom yn ddigon hen-ffasiwn i gredu y dylai unrhyw un sydd am wthio'r ffiniau fod yn ymwybodol o'r ffiniau hynny yn y lle cyntaf.
'Sut ydych chi yn beiddio gwadu fi!' Erbyn hyn roedd y chwilen dew yn dawnsio'n wyllt yn ei chynddaredd, yn siglo o ochr i ochr dan wthio'i habdomen yn erbyn tarian ei hadenydd i greu sūn suo gwirion.
Yna daeth Rex gan wthio'i drwyn i law Alphonse.
Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.
Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.
Cadwai'r cŵn mor agos ato ag y gallent gan wthio'u pennau yn ei erbyn fel pe byddent yn ei helpu i fynd yn ei flaen.
Gwingais gan boen ei sathriad a cheisio'i wthio ymaith oddi wrthyf.
'Tyd, tamaid o'r deisan gwsberis 'ma,' meddai Emrys, gan wthio cyllell o dan ddarn ohoni.
Ond os oedd Ibn i weld tyrrau eglwysi Paris bell doedd dim dewis ganddo o gwbwl ond gwrthod y plentyn a'i wthio o'r neilltu.
Llithrodd wal o eira lawr y mynydd, ei wthio o'i blaen a'i gladdu mewn eiliad.
Gwell i ni fynd tra bod cyfle gyda ni.' Rhoes Michael bwli ar y wifren dynn a chan wthio'i hun i ffwrdd o sil y ffenestr gyda'i draed llithrodd i lawr.
Cododd ar ei draed mewn protest a dweud bod ganddo'r traed cynhesa' o fewn y cread, ond rhoddodd Laura Elin law gadarn ar ei ysgwydd a'i wthio yn ôl i'w sedd.
"Dywedwyd wrthyf erioed y dylwn wthio fy hunan mor bell ag y gallai fy nghorff fynd.
Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.
Yn wir, ni ddylid anwybyddu Mynnodd ef wthio penderfyniad trwy'r Cenhedloedd Unedig yn condemnio'r trais ac yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol.
Religious Knowledge, atebais inna' gan wthio 'mrest allan.