Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wybren

wybren

Gwylio a deall y sêr Er ei bod hi'n bosib gwylio'r sêr gyda dim mwy na llygaid ac amynedd, mae seryddion wedi dysgu llawer mwy ers i Galileo droi ei delesgop ar y wybren uwchben am y tro cyntaf a gweld pethau nad oedd yn bosib eu gweld gyda'r llygaid yn unig.

Pontiodd fflam o dân o ffroenau'r dreigiau a saethu'n groes i'w wybren gan godi mwy o ofn arnyn nhw.

Trafaeliai'r oriau byrion ar draws yr wybren gyda'r cymylau.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.

Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.