Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wybyddus

wybyddus

Ychydig sy'n wybyddus am ei yrfa yn ystod y blynyddoedd sy'n dilyn.

Rhaid crybwyll elfen nad oedd yn wybyddus i'r cynllunwyr cynnar ond a gafodd ddylanwad mawr ar eu datblygiad maes o law, sef gwaith Prosiect ieithoedd Modem Cyngor Ewrop.

Mae'n wybyddus i lawer sut y bu i William ymadael â'r Methodistiaid yn Llansannan yn sgil penderfyniad yr henaduriaid i ddiarddel ei gyfaill Joseph Davies am ei fod wedi cerdded adref ar fore Sul i ymweld â'i wraig ar ei gwely angau, fel y tybiai ef ar y pryd.

Heddiw, mae'n wybyddus nad oes gan Mawrth ond odid atmosffer tenau o garbon deuocsid sydd yn gallu cadw neu ddal gafael mewn cyfran fechan o wres yr haul.

Wrth feddwl bod yn rhaid i doddiant addas ymateb i'r holl ofynion hyn, a hynny i gyd ar yr un pryd, ychydig iawn o bosibiliadau sy'n bod ymhlith y cyfansoddion cemegol sy'n wybyddus ar y planedau, y meteorau a'r comedau.

Am resyme sy ddim ond yn wybyddus i ddewiswyr Caerdydd, gadawyd y cryfa o'u rheng flaen, Mike Knill, allan o'r tîm; felly hefyd eu ciciwr gore, y Cymro o Lambed, John Davies, a oedd eisoes wedi torri'r record am sgori pwyntie i'r Clwb.

Ac enghreifftiwyd y newyn am feiblau yn y stori am Mari Jones yn mynd yn droednoeth o Lanfihangel i'r Bala i geisio Beibl gan Thomas Charles - stori sydd bellach yn wybyddus mewn llawer rhan o'r byd.

Ar ben hynny, roedd yn wybyddus fod Neo-Natsi%aid yn cwrdd yn aml i feddwi ac i ganu caneuon Ffasgaidd ar lain o dir y tu ôl i'r tū yr oeddent yn y man i'w losgi.

Fel y mae yn wybyddus erbyn hyn, paentio mewn olew y mae Gwyneth ap Tomos ac y mae ei gwaith hithau eto yn dangos harddwch tawelwch a llonyddwch.

Mae'r hanes yn rhy wybyddus ac yn rhy drist i'w ailadrodd.

wrth drafod y profion darllen ac ysgrifennu, mynegwyd pryder fod argraffu profion mewn pedwar lliw ar gyfer pedair haen yn tynnu sylw anffodus at asesiadau nad ydynt eto yn wybyddus i'r disgyblion.

Ni fwriadaf restru yma ddulliau defnyddio mawn, ddaeth mor wybyddus erbyn hyn, ond caf aml ymholiad ynglŷn ag o gan ambell newyddian gyda garddio sydd wedi gwrando ar y canmoliaethau niferus amdano ac yna mlwg yn fodlon coelio bron bopeth ddarllena neu a wrendy.