Nid oedd Pwll Malltraeth a'i gyffiniau'n warchodfa natur bryd hynny, a byddai llu o hwyaid, rhydyddion ac ychydig wyddau'n cael eu saethu pan hedfanent i fyny'r afon o'r môr.
Ychydig gyfle a gawn yng Nghymru heddiw i gael golwg ar wyddau gwirioneddol wyllt.
Ceir cyfle yno hefyd i wylio dwy rywogaeth arall o wyddau, yr Wydd Wyllt a'r Wydd Wyran.
Yn sicr, ni cheir golygfa fwy ramantus na heidiau o wyddau gwyllt yn croesi cynfas liwgar y machlud, a chefais gyfle i fwynhau hynny droeon ym Martin Mere.