Gwedd arall ar y hehongliad rhywiolfrydig yma ar y chwedl ydyw'r ffordd y gwêl Layard y Pair Diwrnach Wyddel, sy'n gyfarwydd inni o chwedloniaeth Iwerddon, fel 'croth', sy'n arwydd o allu'r elfen famol i gynhyrchu bywyd, ac i'w ddistrywio.
Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.