Darganfuwyd gweddillion yn Llansantffraid a'r Gors-goch sy'n awgrymu bod unwaith Wyddelod, ychydig ohonynt o leiaf, yn byw rhwng Dyfi a Theifi.
Croesodd y môr a glaniodd ar draethau gogledd y wlad, a thrwy iddo ladd cynifer o Wyddelod, cafodd rhan helaeth o ogledd-orllewin Cymru wared ar y gelyn.
Ar ôl cinio aeth y ddau i'r lolfa am goffi ac yno roedd nifer o bobl wedi ymgynnull, yn eu plith amryw o Wyddelod lleol gan gynnwys offeiriad llawn hwyl.
I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.
Dilynodd rhaglen radio griw o Wyddelod cefnog i ffair tai haf yn Sbaen achos nid ar y Saeson a'r Almaenwyr y mae golwg marchnatwyr tai Sbaen bellach ond at wlad Sean, Michael a Paddy.
Ychydig o flynyddoedd ynghynt roedd newyn dieflig wedi achosi marwolaeth miloedd o Wyddelod, a'r tlodi a'r newyn yma a yrrodd eu cydwladwyr - merched, plant a dynion o bob oedran ar draws moroedd geirwon i geisio byd gwell.
Cyflawnid nifer fawr o droseddau o'r fath gan Wyddelod, a dedfrydwyd lladron penffordd ac eraill fel Henry Hope, carcharor ar y Tortoise gyda Benjamin Griffiths ar y fordaith i Awstralia, am ladrata sofrenni.