Look for definition of wyddom in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Fe wyddom oll am ddiddordeb Freud yn y chwedlau Thebaidd, yn enwedig yn hanes Oidipos, ac am ddiddordeb mwy cyffredinol Jung yn y maes.
Ef a roes fawredd i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn gwarth arwisgiad y tywysog Charles yng Nghaernarfon, seremoni, fe wyddom heddiw, a wthiwyd ar eu gwaethaf ar y teulu brenhinol Seisnig gan Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur er mwyn lladd cenedlaetholdeb Cymru.
Mae'r cirysau hyn yn gymorth i hidlo gronynnau o'r dwr wrth iddo lifo trwy'r ffilamentau ond ni wyddom yn fanwl sut y maent yn gwneud hyn.
Y drwg yw fod y grefft hon - a fun un reddfol bron inni dros y canrifoedd - yn un mor ddieithr erbyn heddiw na wyddom sut i'w harfer.
Gan na wyddom beth oedd maint odid un o'r argraffiadau sy'n cario'i enw ef a'i gydweithwyr, nid oes modd inni wireddu'r hawl hon.
Un llyfr sydd, un ffynnon, un dysgawdwr, un goleuni, ac ymadroddion fel 'llyfr y bywyd, ffynnon dwfr y bywyd, ni a wyddom mai dysgawdwr wyt Ti wedi dyfod oddi wrth Dduw, Goleuni y byd ydwyf i' yn dod i'r cof.
Gan mai ychydig a wyddom am fiocemeg a nodweddion mecanyddol haen galed amddiffynnol o'r fath, mae'n hanfodol gwneud ymchwil cyn tarfu ar sefydlogrwydd y safle.
Fe wyddom ninnau, wrth reswm, na ddylid byth fwyta tatws wedi troi'n wyrdd; yn sicr mae'r rheini'n wenwynig.
Ychydig iawn a wyddom am y dyn ei hun ond dywedir mai ef a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r chwedlau gan eu hadrodd wrth yr hen Roegiaid i'w diddanu a'u hannog i feddwl ar yr un pryd.
Mae'r wyrth yn parhau, ac er na wyddom y cyfan am yr ysfa a'r gallu anhygoel i fudo, mae yn ein gwefreiddio pob Gwanwyn.
Am a wyddom ni, yntê?
Ni wyddom hyd yn hyn a wyddai Terry Waite am fisidimanars Irangate.
Fodd bynnag, ni all un ohonom warantu, hyd yn oed gyda'r ffydd fwyaf cadarn y bydd unrhyw gynllun i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yn llwyddo, ond fe wyddom oll mor sicr ag y mae'r dydd yn troi'n nos beth fyddai'n digwydd petai ni'n peidio â gwneud dim.
Fe wyddom fod yr atomau mewn grisialau cywrain fel diemwnt wedi eu lleoli mewn trefn anhygoel bron ac fe wyddom hefyd fod priodweddau'r solid yn dibynnu ar natur yr atomau, eu lleoliad a'r modd y cysylltir hwy a'i gilydd.
Am ddim a wyddom, gallant fod wedi hen ddiffodd.
Ond mae'r pwnc yn un cymhleth iawn ac mae llawer i beth na wyddom eto am y wyrth fawr flynyddol.
A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.
Ond ni wyddom beth oed tynged Lewis Hughes, Llannor, na Robert Morris, Rhiw.
Ni wyddom ni beth sy'n ein haros ym mhlygion y flwyddyn hon.
Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.
Nid yw o bwys ganddynt a wyddom ddim am Dafydd ap Gwilym neu Williams Pantycelyn ond y mae o bwys ganddynt ein bod yn ein gweld ein hunain fel plant diwylliannol Shakespeare a Dickens.
Fe wyddom am y modd y mae'r cylchedau micro a dyfeisiadau tebyg wedi dylanwadu ar ein ffordd o fyw yn yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae'r datblygiadau presennol ym myd microbrosesyddion, celloedd solar ac electroneg optig, er enghraifft, yn awgrymu y bydd cymaint, os nad mwy, o newid yn yr ugain mlynedd nesaf.
Erbyn hyn fe wyddom iddo gasglu a phentyrru 8.6 miliwn o bunnau.
Fe wyddom heddiw nad a ddywedid ar goedd ac ar brint oedd gwir farn amryw byd o ddeiliaid Elisabeth y Gyntaf.
Ni wyddom ar hyn o bryd os bu'r ymgyrch gyntaf, sef targedu'r arwyddion Give Way, yn llwyddiant; hynny yw a fydd y Swyddfa Gymreig yn cytuno i'w gwneud yn ddwyieithog.
Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.