Meddyliai pawb am Miss Hughes, ac am a wyddwn i ni feddyliai neb am Rhys Lewis.
Gan ei bod yn berfedd nos neu yn oriau mân y bore, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud â'r jar te, roedd golwg mor wael arno, ond o ran parch fe gedwais gwmpeini i'r trwyth.
Nid gelyn cyffredin oedd Talfan, fe wyddwn hynny'n dda.
Ar un wedd, fe fagais i barch mawr at y fyddin - a sylweddoli cyn lleied a wyddwn am eu gwaith, eu syniadaeth a'u harferion cyn hynny.
Nawr fe wyddwn i, Yorath a rhai o'r chwaraewyr eraill fod Mickey yn casa/ u hedfan ac roedd 'na daith hir iawn o'n blaene ni.
Fe wyddwn beth oedd y waredigaeth hefyd - drama dda.
"Mi ddois i'n gynnar, a wyddwn i ddim yn iawn lle i fynd, ond 'roeddwn i wedi arfer dwad i fan 'ma at Gwyn Gallwn deimlo rhyw ias yn cerdded y ddau wrth i mi sôn am y marw.
Nid oherwydd unrhyw hoffter ohonof fi, mi wyddwn, ond am fy mod yn ffordd ymwared iddo ar y funud.
Wyddwn i ddim tan yn ddiweddar ble'r oedd Maes Garmon er y gwyddwn wrth gwrs am yr ysgol enwog sy'n dwyn yr enw a bod honno yn yr Wyddgrug.
Saethodd cyllell o boen drwy 'nghefn, ac mi wyddwn yr eiliad honno na fydde'n bosib i mi gario 'mlân.
Cefais yr argraff o'r hyn a wyddwn fod cymaint o hap a siawns yn perthyn i hanes y teulu nes rhyfeddu fy mod ar dir y byw o gwbl a'm bod yr hyn oeddwn.Roedd fy chwilfrydedd yn fawr.
'Ie, rwy'n cyfadde hynny,' meddai'r wraig yn ystrywgar, 'ond wyddwn i ddim am y cawr bryd hynny.
"Wnaeth neb drafod y pwnc 'da fi - wyddwn i ddim a oeddwn i'n gyfrifol mewn rhyw ffordd am yr hyn oedd wedi digwydd iddi ac am eu bod hi'n mynd i ffwrdd," meddai.
Wyddwn i ddim beth i'w ddweud.
Ni ddatgelodd neb erioed wrthyf beth oedd gwaith tad Talfan, ond fe wyddwn drwy reddf ei fod yn perthyn i broffesiwn bur wahanol i'm tad i.
Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!
Mi wyddwn i dy fod ti'n dy feio dy hun - mae'r peth yn naturiol, i raddau.
Wel, mi ddilynais o i'r ynys, a phan welais i o'n mynd i'r plas roeddwn i'n.teimlo'n hollol sicr mai yno roedd Eds, a rhai eraill am a wyddwn i.
Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.
Fe wyddwn i hynny cyn gynted ag y croesais y bont o'r cei yn Dover .
Ac wrth syllu i'w lygaid tadol, mi wyddwn ei fod yn dweud y gwir.
Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.
'Mi wyddwn i fod rhywbeth o'i le neithiwr yn y wledd, man y gwelais i'r hen ddyn yna.
Fe wyddwn i ble roeddwn i'n sefyll.
A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.
Yr oedd yn llawenydd i mi eich bod wedi darganfod gwreiddiol Scren Heddwch Islwyn, rhaid imi gyfaddef na wyddwn i ddim am Jane Simpson ac nid oes gair amdani yn y Biographical Dictionary sydd gennyf.
Yr oedd miwsig yn y teulu ar ochr fy nhad, ac er na wyddwn i ddim byd am dechneg honno, 'roeddwn wedi etifeddu digon o chwaeth fel y medrwn fwynhau miwsig o safon.
Ni wyddwn ychwaith ei bod wedi ei hiacha/ u nes imi ei gweld ddwy flynedd wedi hynny pan ddaeth ar ei gwyliau i'm hardal.
Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.
Wyddwn i ddim pwy sydd wedi penderfynu ar enwau'r myfyrwyr - Zephyr Knight yn fy nosbarth i heddiw.
Bigw annwyl, wyddwn i ddim p'un ai i chwerthin neu grio.
Ni wyddwn unrhyw beth am y cyfansoddwr, ac eithrio mai Rwsiad ydoedd, ond wedi mynd ati i chwilio am fwy o wybodaeth mewn gwyddoniadur fe'm trawyd gan y tebygrwydd rhyngddo ac Ieuan Gwynedd.
Yn fy nyddiau cynnar ychydig iawn a wyddwn amdano - dim, am wn, i ar wahân ei fod yn labrwr ac yn englynwr.
'Wyddwn i ddim dy fod ti'n hoffi cŵn,' meddai fo.
Ni fydd y meini byth yn gadael y rhostir ond am ychydig funudau yn unig ac yna mi fyddant yn rhuthro yn eu holau yn wyllt er mwyn gorwedd ar y trysor am gan mlynedd arall." "Wel wir, wyddwn i erioed mo hynny o'r blaen," meddai'r asyn.
Wyddwn i ddim am ffordd o wneud bywoliaeth ar wahân i farchogaeth ceffylau yn gyflym dros bob math o rwystrau, a doedd hi ddim yn job y gallai neb ei gwneud os nad oedd ei galon yn y gwaith.
Fe wyddwn yn burion beth oedd y broblem - diffyg deunydd da.
Wyddwn i ddim fod nadroedd yn pisio a chachu.' 'W!
Wyddech chi ei fod o'n aelod o'r sindicet oedd am brynu'r fferm?" "Na wyddwn i, ond dydi hynny'n ddim rhyfeddod i mi.
Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.
'Wyddwn i ddim bod David yn meddwl ymddiswyddo.
Wrth gerdded ar ei ôl ar hyd yr ysgol, doeddwn i'n gweld neb, ond mi wyddwn fod llygaid degau o blant arnaf, a theimlwn fy wyneb yn llosgi'n dân gan swildod.
Er taw ychydig iawn a wyddwn i - a'r Gorllewin yn gyffredinol - am Arlywydd Ariannin, Carlos Menem, roedd hi'n hysbys i bawb fod ei wlad mewn trafferthion ofnadwy.
"Dyna y gwyddwn i ymhle'r oeddach chi'n byw, i ddweud wrth yr hogia yn yr iard, er na wyddwn i mo'ch enw chi."
Wyddwn i ddim yn siŵr pa un!