Brithir ei atgofion a'i fyfyrdodau gan gyfeiriadau at arwyr Iwerddon, yn enwedig wedi iddo ganfod fod carcharorion o Wyddyl wedi bod yn yr un gell ag ef o'i flaen.
Un a gydweithiodd a hwy oedd Roger Casement, a aeth i'r Almaen i geisio sefydlu brigâd Wyddelig o'r carcharorion rhyfel o Wyddyl a oedd mewn caethiwed yn yr Almaen.