Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wydn

wydn

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Dylid trin dail betys yn debyg i'r modd y trinnir spinaits; ond gwell torri ffwrdd y rhan isaf o'r goes sy'n tueddu i fod yn wydn.

Roedd hi tuag ugain oed, yn fychan ac eiddil o gorff, ond ymddangosai'n wydn.

'Dwi ddim yn meddwl y g-galla i fynd i lawr fan'na, Ffredi!' 'Paid â phoeni, 'rhen goes,' meddai'r broga'n gysurlon wrth i ddwy chwilen wydn symud tuag atynt.

Roedd yn arweinydd naturio yn wydn, yn ffydlon ac yn sicr ei gam a'i farn.