Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wylaidd

wylaidd

Ni chlywodd y traed ysgafn y tu ôl iddi nes i lais bychan dorri ar draws ei bwrlwm a gofyn iddi'n wylaidd: 'Ble mae Mam, Miss Beti?' Stopiodd yn y fan a rhyw hanner gweld bachgen bach penfelyn tlws yn sbio'n ymddiriedol i fyny ati.

Gwenodd Bethan arno, gwên swil, wylaidd, "Hai, Bob'.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

Cyn agosed fyth ag a allai i ymyl uchaf y ddalen, yn ei iaith ei hun, dododd Mr Kumalo o Swasiland yn yr Affrig ei adnod, fel bachgen bach yn y seiat, a rhoes y Saesneg yn wylaidd rhwng cromfachau ar ei hôl: God is Love.

Dywedaf yn wylaidd fy mod wedi cael y fraint o fraenaru'r tir ychydig yng Ngheredigion ar gyfer ei ddyfod.

Mynd yn wylaidd neu wrthod heb ystyried dim mwy.

Aeth i fyny'r grisiau simsan, noeth, yn bryderus a churodd yn wylaidd ar y drws.

Eisteddwn yno rhyngddynt yn gwrando a'm dwylo wedi'u plethu'n wylaidd yn fy nghôl.

Allwn i wneud dim llai nag ufuddhau i'r fenyw wylaidd hon.