Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wylio

wylio

"Dyna'r peth gorau a ddigwyddodd i mi erioed," ebe'r morwr wrth wylio'r pysgodyn mawr yn troi ar ei gefn ac yn nofio i ffwrdd.

O na bai bancio mor llwyddiannus â hyn: mae BBC Cymru yn cyflenwi 30 y cant o gynnyrch Cymraeg S4C, ond yn denu bron i 50 y cant o'r holl wylio a wneir ar raglenni Cymraeg.

Un o sgil-effeithiau'r cynnydd hyn yw bod y broses o wylio teledu wedi newid.

Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.

Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.

'Mi ddaethon ni yma er mwyn eyfarfod â'r brenin ac nid i wylio arddangosfa o ddawnsio cyntefig, diolch i ti, wrth gwrs.'

Roedd Ifor yntau wedi dechra teimlo fod rhywun yn ei wylio trwy'r amsar ac yn chwythu i lawr ei war.

Cwestiynau oedd yn procio'r meddwl wrth wylio a mwynhau perfformiad pedwar actor dawnus mewn sefyllfaoedd o wir dyndra ar adegau ac yn llawn hiwmor dro arall.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Wrth wylio'i lein yn y dw^r teimlai'n fodlon braf.

Hysbysebodd yn y papur lleol am griwyr a thalu deg doler yr un i gant ohonyn nhw am wylio'r math o ffilm a elwir yn 'tear jerker' ž prociwr dagrau, os mynnwcy chi.

Rhoddwyd gwaith i Ieus a dweud wrtho i wylio am greigiau.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

Yn sgîl hynny, o wylio gemau y dyddiau hyn, cawn berfformiad amddiffynnol cadarn am eu bod mor drefnus.

Neur oedd cystal â bod yno wrth wylio perfformiad ysgytwol, gwreiddiol Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru o Faust Goethe yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.

Safodd y dynion yn stond i wylio'r garafa/ n yn ymadael cyn troi i geisio trin clwyf eu cyfaill.

'Mi fydd yn rhaid inni wylio'r llwybr 'na â'n holl egni.

Mae angen amser ac amynedd i wylio adar.

Mae BBC Cymru yn cyflenwi 30 y cant o gynnyrch Cymraeg S4C, ond yn denu bron i 50 y cant o'r holl wylio a wneir ar raglenni Cymraeg.

Cyfareddir dyn wrth wylio'r cerbydau coch neu wyrdd tywyll yn mynd i mewn ac allan o'r twneli, gan esgyn neu ddisgyn o lefel i lefel, ac o bont i bont, uwchben hafn gul Afon Alvra.

Cyneuwyd y tân hwnnw yn ei fynwes wedi iddo wylio anterliwt, un ddigon amrwd, tu allan i dafarn Penlan Fawr ym Mhwllheli, un ffair Gwyl Grog.

Daeth fy rhieni i wylio'r gêm gyntaf yn erbyn Coleg y Brifysgol, Bangor.

Wrth i'r fyddin nesu, aeth y gwerthwyr a'r prynwyr yn ddistaw gan wylio'r milwyr estron yn mynd drwy'r porthdy.

Yna am ryw hanner awr byddem yn cael sgwrs â'r ddau weinidog, neu wylio ambell fideo yn dangos sut mae Cristnogaeth yn cymryd rhan ym mywydau pobl heddiw.

Trodd ar ei gefn i wylio'r haul yn goleuo'r awyr uwchben y Cefnfor Tawel.

"Ar ôl aros yn y Cape dros amryw fisoedd, aethom ­ Alikan Bay i wylio rhag i'r Ffrancod lanio yno.

Nid oedd neb yn ei wylio.

Wrth ei wylio'n croesi at y pll nofio, meddyliai mai'r unig beth a chwythai bob problem i'r pedwar gwynt fyddai iddo fe syrthio mewn cariad â hi.

Mae cynnyrch BBC Cymru yn denu 67 y cant o'r holl wylio a gwrando ar radio a theledu Cymraeg yng Nghymru.

Roedd hwn yn gychwyn cyffrous i bob eisteddiad a gallaswn i fod wedi'i wylio drosodd a throsodd heb syrffedu.

'Hwyl,' sibrydodd Huw yn dawel fach wrth wylio cysgod ei frawd ar y pared.

Nid oes angen llwytho i lawr unrhyw fersiwn y talwyd amdano o RealPlayer megis RealPlayer Plus i wylio neu i wrando ar ffeiliau RealMedia ar unrhyw un o wefannau'r BBC. Edrychwch ar eu gwefan i gael hyd i'r fersiwn rhad ac am ddim, e.e. RealPlayer 7 Basic neu RealPlayer G2, gan sicrhau eich bod yn dewis y fersiwn priodol ar gyfer PC neu'r Mac.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

'R oedd yn un o'r rhai "ymysg trueiniaid daear, sydd a'u trem/ Yn treiddio beunydd trwy barwydydd clai/ I wylio'r ser o hyd ar Fethlehem." Wrth ef a'i fath, deillion ydym oll.

Mae 49 y cant o'r holl wylio a gwrando a wneir ar radio a theledu yng Nghymru yn cael ei wneud i wasanaethau'r BBC a 67 y cant o'r holl wrando a gwylio ar raglenni Cymraeg yn cael ei wneud i raglenni a ddarlledir neu sydd wedi eu gwneud gan BBC Cymru.

Falle bydd y steil ddim yn bleser i'w wylio ond maen rhaid creu steil iddyn nhw eu hunain.

Eisteddodd Kirkley yn y gadair ar ochr arall y ddesg a'i wylio'n yfed.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

Nid oedd ond rhaid iddi ei wylio yn syllu i'r pellter aflonydd i weld hynny.

Felly gwell oedd ei chychwyn hi am yr ochr arall at y goleudy sydd bellach yn arsyllfa gan yr RSPB a chyfle arall i wylio'r adar drwy'r sbeinddrych.

Os nad ydach chi'n fy nghredu i, ewch ati i wylio'r gynuleidfa mewn rhaglen deledu a fwriadwyd i fod yn ddigri.

Pob hwyl i'r gyfres a cofiwch wylio.

Roedd torf sylweddol o bymtheng mil wedi troi i fewn i wylio'r gêm, ac unwaith eto, roedd yr arbenigwyr yn ddigon parod i farnu mai blaenwyr Castell Nedd fydde'r meistri.

'Pe bawn i'n gwybod beth oeddech chi ishe, baswn wedi dod â'r batris hefyd.' Hebddyn nhw, nid oedd modd defnyddio'r camera i wylio'r tâpiau.

Mae fyny i ni wneud yn siwr na fyddan nhw'n dod i wylio gemau Chelsea yn y dyfodol, meddai.

Bydd yn rhaid i Gaerdydd wylio rhag gwneud unrhyw gamgymeriadau di-angen, fel ag y gwnaethon nhw yn y gêm yn Cheltenham ddydd Sul.

Mynd yno gyda chriw bychan, wedi clywed mai dyma'r man orau i wylio'r Storm.

Dewis pa un ai i wylio cypffeinal pêl-droed olaf Lloegr o Wembley ynteu Lanelli ag Abertawe yn brwydro am gwpan rygbi Cymru.

'Does dim modd mynd at wraidd y dirgelwch heb wylio, mae hynny'n bendant.

Yng Nghwmderi, fodd bynnag, mae cymeriadau o'r gorffennol pell wedi atgyfodi gyda Sabrina a Meic Pierce yn ôl yn y Cwm ond mae cymaint wedi newid ers imi wylio Pobl y Cwm yn rheolaidd fel nad wyf eto'n gwybod pwy 'di pwy a be 'di be yng Nhwmderi.

Dringodd nifer o'r morwyr i lawr atynt, penderfynodd y capten ac Ibn eu bod hwythau hefyd ag awydd rhoi troed ar dir sych wedi wythnosau ar fwrdd drewllyd y llong a blas yr heli ar bob dim: 'Lle ydan ni?' Ibn ofynnodd y cwestiwn wrth wylio'r lan yn nesa/ u: 'Tuscani.' Atebodd un o'r morwyr cyn ychwanegu: 'Dwi'n meddwl.' Ond doedd Ibn ddim callach.

Wrth wylio un afalans llydan yn llithro ymaith yn union wrth draed dau ffigwr bach ym mhen arall y grib ac ofni'r gwaethaf am funud hir, daeth geiriau o 'Princess' Tennyson o'r newydd i'm cof: to walk With Death and Morning on the Silver Horns.

Cer i nôl y fen, wnei di, a gwna'n siŵr nad oes neb yn dy wylio.'

Ceir cyfle yno hefyd i wylio dwy rywogaeth arall o wyddau, yr Wydd Wyllt a'r Wydd Wyran.

Ond er nad oeddynt yn deall eu sgwrs gwelsant wyneb Miss Davies yn newid, a'i llygad yn fawr a syfrdan wrth iddi wylio'r dyn cefnsyth yn troi ar ei sawdl a brasgamu yn ôl at y drws.

Gan wylio'r ychydig deithwyr yn dringo i mewn i bum cerbyd y trên meddyliodd David pa mor falch y buasai i orffen y trip hwn a chael eistedd o flaen tân cynnes braf gartref.

Ond nid mater o wylio ffilmiau'n unig mo'r žyl, dim mwy na bod Ascot yn geffylau i gyd, neu'r Eisteddfod yn adrodd a cherdd dant neu Wimbledon yn ddim byd ond tenis.

Yr ydym yn byw mewn byngalos mawr, hyll, gyda llestri lloeren sy'n gallu casglu cant o sianelau ac nid yw'r awydd yn bodoli i wylio rhaglenni Gwyddeleg ar TnG yn y babel sianelog hon.

Oedd Bilo wedi gorchymyn iddo ei wylio a cheisio penderfynu oedd yna ddigon o ddewrder a chaledwch ac ysbryd antur ynddo i ymuno â'r criw?

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Yna aethant at gornel y mur i wylio.

Oedolion a phlant sy'n byw yn y dref yw'r actorion, a daw llawer o bobl i wylio'r performiadau.

Safai'n llonydd yn ei gwrcwd pan ddechreuai'r bowliwr ar ei daith, gan wylio'r bêl yn ofalus a'i dal yn ddiogel.