Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyllt

wyllt

Ar adeg arall roedd o'n gweithio hefo un ar ddeg o ddynion eraill mewn chwarel, hwn eto mewn lle pur wyllt, a phawb yn byw mewn cytiau a gofalu am eu bwyd eu hunain.

Toc byddai'n dod a'i wynt yn ei ddwrn a golwg wyllt arno.

Eiliad arall ac roedd hi'n frwydr wyllt a'r eira'n chwyrlio yn ôl a blaen wrth i'r côr ymwahanu'n ddwy garfan.

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

Daeth Modryb i'w chwfwr ar ben y landin, a golwg fel dynes wyllt o'r coed arni.

Aeth pethau'n wyllt wallgof ar ôl hynny.

O dan yr wyneb mae yna ochr wyllt i gymeriad Gareth Lewis - ganol mis Awst fe fydd yn mynd i ddilyn y Grand Prix Hwngaraidd yn Budapest.

'Yn enw cenedl y Madriaid ac Ynyr y Fwyell o Ddunoding - I'r gad!' Daeth bonllef wyllt y tu ôl iddo, ac fel dwy don yn taro, dyma'r ddwy fyddin yn hyrddio yn erbyn ei gilydd.

GLWAD WYLLT Dywed yr awdurdodau gorau mai'r mynyddoedd gwlyb hyn a'r tir sobr o sal sydd yn Urmyc gan mwyaf, sydd wedi cadw'r iaith yn fyw.

Nid gwaed ei nain a ffrydiau yn ei gwythiennau hi, ond gwaed ei mam, y fam honno na fynnai ei nain sôn amdani wrthi am mai un wyllt oedd hi.

'Roedd y glowyr yn ceisio atal 'cynffonwyr' rhag torri'r streic; ymoso~odd-yr heddlu yn wyllt ar y picedwyr, gan bwnio un ohonynt yn gelain.

Yr hyn syn ofid, yw faint o dalent sydd yna yn rhedeg yn wyllt yn y strydoedd cefn, yn y priffyrdd ar caeau.

Cychwynnodd tuag at y prysurdeb yn wyllt ond galwyd arno'n ôl.

Er bod fy mam am roi'r enw 'Merlin' i'w hunig fab nid oes unrhyw sail i dybio fod ganddi lawer o wybodaeth am yr hen chwedl am Fyrddin Wyllt.

Yn ystod y dyddiau cynnar hynny, pan oedd Morfudd yn newydd-ddyfodiad, ac enigma'r dro%ell yn sbeis ar dafodau'r fro, awgrymodd un o'r rhai mwy gweledigaethol ymhlith y pentrefwyr unwaith mai rhwystredig oedd yr hen wraig, ac mai chwant rywiol a'i gyrrai i nyddu'n wyllt bob dydd!

Roedd golwg wyllt arni, ei gwallt yn flêr a'i llygaid yn gochion ac ôl crio mawr ar ei hwyneb.

off from here," meddai'n wyllt.

'Ddim yn gall,' mwmbliais dan fy ngwynt gan rwyfo'n wyllt.

I aelodau'r dosbarth roedd y pill rhyfeddol hwn mor anffaeledig â Beibl Pitar Willias: 'doedd y Llyfr - Yr Ardal Wyllt - Atgofion am Lanfairynghornwy, a dyma hi:PENCAMPWRIAETH DAWNSIO GWERIN Y BYD

Plymiodd un amdano yn wyllt, fel awyren yn sgrechian cyn gollwng bom ar long adeg rhyfel.

Wedi dianc o'r car, cafodd y bechgyn egni newydd o rywle a dechrau rhedeg yn wyllt i bob cyfeiriad tra llusgai Carol ar eu holau'n wan fel balŵn wythnos wedi'r parti.

Magodd a chynyddodd yr þydd Wyllt Gyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dichon mai adar dof oedd eu cyn-dadau.

Ni piau'r cwbl!' ebe Tudur yn wyllt wrth weld ei frawd yn dechrau rhawio'r pridd yn ôl ar y sach.

Arni hi yr oedd y bai i gyd, arni hi a'r dymer wyllt honno a etifeddodd gan hynafiaid Ffrengig ei thad, meddai ei mam.

Newydd roi'r llefrith ar y Coco Pops ac ar fin codi'r llwy i ddechrau bwyta fy mrecwast roeddwn i pan sgubodd Nain Ffred i mewn i'r gegin a golwg wyllt arni.

Gwibiai'r cymylau'n wyllt ar draws yr awyr a hyrddiai'r dŵr o'r rhaeadr yn erbyn eu hwynebau.

Ar eu hynt rhwng y gogledd a'r de, rhwng y werddon a'r ddinas, cyrcydu a wna merched Cwffra mewn lori agored, yng nghysgod bocsys o domatos, basgedi o ddâts gwasgedig a marsiandi%aeth o'r fath, rhag y gwynt a grafella'r croen fel rhathell wyllt.

Ond er syndod i bobol Sweden i gyd, amcangyfrifwyd fod tua chant o'r anifeiliaid hyn bellach yn byw yn fforestydd y wlad a hefyd ar ynysoedd - hynny yw, maent wedi llwyddo i fyw yn wyllt ac i fagu rhai ifainc.

Cer di ddigon pell 'ta, Morys Wyllt, dos, draw am y traeth â chdi lle galla'i dy weld di'n corddi'r tonnau.

Roedd yr afon yn rhuthro'n wyllt dros y cerrig ac yna'n arafu a throi mewn pwll dwfn.

'Sut ydych chi yn beiddio gwadu fi!' Erbyn hyn roedd y chwilen dew yn dawnsio'n wyllt yn ei chynddaredd, yn siglo o ochr i ochr dan wthio'i habdomen yn erbyn tarian ei hadenydd i greu sþn suo gwirion.

Mi aeth yn wyllt walia a phoer mawr o gwmpas ei geg o.

'Tudur,' gwaeddodd arei ôl yn wyllt gan edrych o'i amgylch yn ofnus.

Rhedeg o gwmpas yn wyllt fel pethau gwirion yr oedd y ddau arall.

'Wel, dyna ni, mae hi wedi canu arnon ni go iawn rŵan, 'tydi,' meddai Geraint yn wyllt.

Creadures wyllt , sbeitlyd oedd hi.

Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.

Roedd golwg wyllt arno a thynnodd hithau 'nôl.

Ychydig gyfle a gawn yng Nghymru heddiw i gael golwg ar wyddau gwirioneddol wyllt.

'Pryd y daw o'n ei ôl?' gofynnodd Nain yn wyllt pan ddywedais wrthi ble'r oedd Dad.

gwaeddodd Gareth, wrth i ben ôl y car weu'n wyllt o amgylch cornel arall.

Ni fydd y meini byth yn gadael y rhostir ond am ychydig funudau yn unig ac yna mi fyddant yn rhuthro yn eu holau yn wyllt er mwyn gorwedd ar y trysor am gan mlynedd arall." "Wel wir, wyddwn i erioed mo hynny o'r blaen," meddai'r asyn.

Sþn ceffylau'n carlamu'n wyllt, a ratchet y brêc yn cael ei dynnu.

Yn lle'r hen Dalfan wyllt, gwelwn yn datblygu fachgen mewnblyg, prin ei eiriau a fyddai'n gwylltio'n gaclwn am y rheswm lleiaf.

Yna, sylweddolodd fod un o'r bobl oedd arni wrthi'n chwifio'i freichiau'n wyllt, i dynnu'u sylw nhw.

"Mae'n rhaid i mi nofio oddi wrth y propelor," meddai wrtho'i hun yn wyllt, "neu fe gaf fy nhorri'n ddarnau.

Dichon mai'r adran sy'n estyn noddfa a chynefin i'r adar naturiol wyllt sy'n denu'r gwyliwr adar selog i Martin Mere.

Ceir cyfle yno hefyd i wylio dwy rywogaeth arall o wyddau, yr Wydd Wyllt a'r Wydd Wyran.

Roedd hi mewn tymer mor wyllt ar y dechrau fel mai prin y sylwai ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sedd gefn nac yn y byd oddi allan i'r car bach coch, ac fe'i cafodd ei hun rai milltiroedd o'i chartref, yn teithio ar gyrion Llundain, cyn i'w thymer ostegu digon iddi sylwi ar ddim.

Mae'r nosweithiau Bingo yn gwella, ar y dechrau roedd y plant yn wyllt i'r eithaf bod un wedi poeri arnaf, ond nawr mae pethau wedi tawelu ac mae'r plant a'r oedolion yn mwynhau.

Gafaelodd mewn brws a dechrau brwsio'i gwallt yn wyllt.

"Ac yn y fan yma mae anrheg Monsieur Leblanc i'r gelyn." Trawodd Henri ei fys ar y map mor wyllt fel y bu bron iddo dorri twll yn y papur cras.

Rwy'i am eich rhybuddio chi - mae'r Proffesor yn - wel - dipyn yn wyllt 'i dymer weithie.

Yr oedd y swyddogion wedi llogi brec, ond gan sgrechfeydd y dyrfa a'r wasgfa fawr fe redodd y ceffylau'n wyllt ac anafwyd un ohonynt mor ddrwg nes gorfod ei saethu yn y fan a'r lle.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.