Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wylo

wylo

Bu bron i'r bachgen â thorri allan i wylo.

Wedi nesa/ u at ddinas enwog ei genedl a chael cipolwg arni o un o'r llethrau cyfagos ni allai lai nag wylo wrth feddwl am y dinistr a fygythiai ei heddwch (Luc xix.

'Roedd rhai rhannau o awdl Sarnicol yn broffwydol, yn enwedig yr englyn toddaid sy'n sôn am 'ddewrion y gad' yn 'Mynd i ryfel' nes bod 'chwerw wylo' ar aml i aelwyd drwy Gymru.

Ac wylo amdani a galaru drosti hi y mae brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuont fyw yn foethus gyda hi, pan welsant fwg ei llosgiad hi.

Cynhyrfodd hyn y gynulleidfa ac aeth yn wylo cyffredinol a llawer yn gweiddi, "diolch iddo%.

Teimlai Siân fel wylo'n hidl.

Dim rhyfedd, felly, ein bod ni'n barotach i wylo.

Yr oedd y sŵn mor felys ac mor lleddf, yn atsain ar draws yr hen gwm, a'r cilfachau'n dynwared y canu a'r wylo, a ninnau'n ochneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed .

Wrth weled rhain mor hyfryd Cynhyrfais innau hefyd Anghofio wnes fy unig fam A wylo am fy anwylyd.

Yn ddigon naturiol, pan aethom i'w golwg torrodd i wylo, ac ni allai ddweud dim am beth amser.

Wrth weld eu mam yn wylo dechreuodd y plant hefyd wylo a daeth perchennog y llety i fyny'r grisiau i weld beth oedd yn digwydd.

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Ni ddaeth yr un deigryn (yn fy ngþydd i, beth bynnag) yn sgîl ei hadwaith call i'r penderfyniad þ er fy mod i yn wylo cawod o ddagrau y tu mewn.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

Ymhen tipyn clywn y canu lleddf ar draws yr afon a'r cwm, a rhedasom i'r tŷ i ddweud eu bod yn canu ac yn wylo wrth dŷ ewyrth Richard.

Nid yn unig y mae merched yn well na bechgyn am basio arholiadau ond maen ymddangos bod dynion yn crio, neu wylo, mwy na merched.

aeth y gân i'w galon a chyfaddefai wedyn, dan wylo fel plentyn ei fod wedi newid ei farn yn hollol am y Diwygiad.

Ond ni allai Pamela ei chynorthwyo a dechreuodd wylo'n hidl.