Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wynfyd

wynfyd

Wedi fy amgylchynu â chariad, yr oeddwn mewn môr o wynfyd.

Dyna'r math o ŵyrdroad enaid a meddwl sy'n wynfyd o broblem i'r seiciatrydd, ond y mae'r ysbryd ar gynydd yn Neau Cymru a gall frysio diwedd yr Eisteddfod.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.