Brithir y dogfennau â chyfeiriadau o bob math at ymateb y Wyniaid i'w hamgylchfyd a chyfnewidiadau arbennig y cyfnod, a'r gorchwyl pennaf iddynt oedd ceisio dyfnhau'r ddelwedd arbennig honno a'u clymai wrth yr haen fonheddig yn Lloegr.
Diddordebau diwylliannol Wyniaid Gwedir
Yr oedd ei dad a'i fam yn hanfod o deuluoedd uchelwrol Cymreig, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oeddynt yn dal eu tir gan y Goron fel is- denantiaid i deulu pwerus Wyniaid Gwedir, ger Llanrwst, tirfeddianwyr mwyaf yr ardal o ddigon.
Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach â darllen am gyfraniad teulu'r Wyniaid o Wedir, Sir Gaernarfon, i hanes cymdeithasol Cymru rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan helaethaf o'r ganrif a'i dilynodd.