Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.
Yn Llangollen edrych am burdeb a dilysrwydd y traddodiad wna'r beirniaid, oedd yn bobol wedi'u trwytho yn nhraddodiadau gwerin a dawns gwledydd y byd, a gan mai saith o'r math yma o wyrda oedd yn tafoli yn Mallorca, penderfynwyd cadw at y ddwy ddawns oedd wedi ennill coron Llangollen inni, sef 'Cadi Ha' a 'Dawns y Glocsen' fel ein dawnsfeydd yn y gystadleuaeth.