Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyrth

wyrth

Do, fe ddigwyddodd y wyrth.

Pwysai'r cŵn eu traed a'u hewinedd yn erbyn y grisiau wrth fy nhynnu i fyny gerfydd fy jersi." "Mae'n wyrth na ddrylliodd y defnydd wedi'r holl lusgo," ebe'i fab.

Ond gan iddynt fod yn dyst i wyrth porthi'r pum mil digon anodd yw deall eu syndod, ac anos yw deall eu caledwch a'u dallineb ysbrydol.

Rşan, be wyt ti'n feddwl o'n palas ni ş dipyn o wyrth, yntê?'

Trwy ryw ryfedd wyrth, ni anafawyd ef ond dyna diwedd ar arbrawf arall i ysgafnhau baich ffermwyr ucheldir Ceredigion!

Mae'r wyrth yn parhau, ac er na wyddom y cyfan am yr ysfa a'r gallu anhygoel i fudo, mae yn ein gwefreiddio pob Gwanwyn.

Ni allai Ibn gredu'i lygaid, ond trwy rhyw ryfedd wyrth roedd wedi cadw'i arian yn ddiogel.

Ac ni flinai ryfeddu at wyrth yr Ymgnawdoliad - Duw yn y cnawd.

Roedd hi'n wyrth ei fod e'n medru cerdded o gwbl oherwydd pan oedd e'n dri deg naw mlwydd oed collodd Mr Croucher ei ddwy goes mewn damwain ar y rheilffordd.

Hwyrach i Gerallt Gymro eu hysbysu o'r wyrth a ddigwyddodd yn Llanddewi Brefi pan bregethodd Dewi yno.

Ond mae'r pwnc yn un cymhleth iawn ac mae llawer i beth na wyddom eto am y wyrth fawr flynyddol.

Credai llawer yng nghyfnod fy machgendod i mai cyfeirio at y wyrth hon a wnâi'r rhigwm:

Byddwn wedi blino cymaint ar ôl rhedeg ar ôl merch i'w dal yn y lle cyntaf y byddai'n wyrth imi fedru hyd yn oed garu efo hi - heb son am fedru rhedeg marathon wedyn.

Galwodd y sant am gymorth o'r nefoedd a thrwy rhyw wyrth, trowyd y milwyr yn rhengoedd o gerrig.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Dyma'r unig wyrth a gofnodir gan y pedwar efengylydd fel ei gilydd.

Gwahanol iawn yw adwaith y disgyblion i'r wyrth hefyd yn ôl Marc ac yn ôl Mathew.

Ond rhyw wyth gan milltir o Muscat, ger y ffin ag Yemen mae tref o'r enw Sulalah sy'n wyrth o le.

Ond cymerwn yn ganiataol eich bod nid yn unig yn hanner-pan ond hefyd, drwy ryw ryfedd wyrth, yn Gymro a chanddo'r gallu i dalu am fferm yng Nghymru.