Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wysg

wysg

Yn yr adran gyntaf y mae edafedd nifer o hanesion yn ymwâu trwy ei gilydd wrth i'r olygfa symud o lys Arthur yng Nghaerllion-ar-Wysg i Gaerdydd ac i helynt Edern ap Nudd.

Roedd eisteddfodau eraill yn y cylch - Cwm Wysg, Trecastell, a Senni.

Ymsefydlasant yng Nghaerlleon ar Wysg cyn dechrau gwthio eu ffordd i'r gorllewin a chyrraedd Caerfyrddin.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Mae'n baglu wysg ei gefn.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Yr hyn a barodd y gofid mwyaf i Elisabeth ai thad-cu oedd bod byddin y Senedd yn cyrchi i Frycheiniog am fod Brenhinwyr Dyffryn Wysg yn bygwth codi a chipio Aberrhonddu.

Gyrru'r car yn wysg ei din am ryw ddeugain llath, a dod o hud i'r ffordd.

Rwy'n meddwl fod yr awdl yma (sef ei awdl gadeiriol yng Nglyn Ebwy, 1958, i Gaerllion-ar-Wysg lle mae'r henwr yn cynghori'r gwr ifanc i gadw'n glir o gaer y Rhufeiniaid) yn fwy perthnasol i'r sefyllfa sy 'da ni heddi (nag oedd hi adeg ei chyfansoddi yn 1958).

Ceisiodd gerdded heibio i Gary tua drws y toiledau, ond camodd hwnnw'n gyflym wysg ei ochr a chafodd Dilwyn ei fod rhyngddo a'r drws.

Tref a saif ger y fan lle llifa'r afon Honddu i'r afon Wysg yn ne Powys yw Aberhonddu.

Yr oedd i Forgannwg yr Oesoedd Canol bedwar cantref: Gorfynydd, Penychen, Breiniol a Gwynllŵg; ymestynnai felly o'r afon Dawy i Wysg.

Ymhyfrydai yn y ty moethus cyffyrddus, yn y gerddi a'r perllannau; yn y meysydd eang ffrwythlon a ymestynnai i lawr at Afon Wysg.

Ac yntau'n baglu o'n blaen wysg ei gefn dros raffau'r pebyll, rhoesom ar ddallt iddo ein barn ynglŷn â'r mater.

O sefyll o flaen hwnnw'n wysg eich ochr roeddech chi'n diflannu'n gyfan gwbl, bron.

ni allai 'r un ohonynt ddweud yn union beth a ddigwyddodd, ond yn sydyn gwelsant ffred yn troi wysg ei ochr a phan oeddynt ar fin gweiddi rhybudd disgynnodd ar ei gefn i 'r afon yr ochr bellaf i 'r gangen fawr ac o 'u golwg.

Mae'r ail adran hithau'n agor yn draddodiadol â fformiwla pennod' y chwedlau Cymraeg a threiglwaith ydd oedd Arthur yn dala llys yng Nghaerllion-ar-Wysg y Sulgwyn.

Oblegid y mulod hynny a dynnai'r aradr i fyny'r bryn, i ben draw y gwys, yna hwynt hwy a droent wysg eu cefn, ac a geisient lwyfan ar yr aradr er mwyn teithio nôl at waelod y cae hwnnw.