Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.
O ben y clogwyn gellwch weld draw dros Fôr Hafren at Wlad yr Haf neu eistedd ger y garreg galch i edrych am esiamplau o'r wystrysen 'Liostrea'.