Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wyt

wyt

Un diwrnod, gofynnodd i un o'r plant: 'Pam wyt ti'n rhoi mynydd i mewn ym mhob darlun 'rwyt ti'n wneud?

Rhaid iti wâdd rhywun i swpar os wyt ti am gwmni.

Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn.

Os wyt yn eu colli hwy i gyd, golyga hynny fod y ceffyl wedi'th gicio ac rwyt yn gorwedd yn anymwybodol a'th antur drosodd.

"Wyt ti wedi clywed honno am y ras rhwng y crwban a'r ysgyfarnog?" "Do, siŵr," meddai un arall o'r plant/ "Clywais i honno pan oeddwn i'n ddim o beth." "Debyg iawn, debyg iawn - a beth mae'r stori fach honno wedi ei ddweud wrthyt ti?" "Mae hi'n bwysig dal ati," meddai un o'r merched.

'Wel, be wyt ti isio tro'ma, Llong?

Dim ond dweud yn garedig, yn feddal, a bron yn oddefgar, "'wyt ti'n cael hwyl 'y ngwas i?".

wel, beth mwy allwn ni ei wneud na charu'n gilydd?" "Caru'n gilydd ddigon..." "Os wyt ti'n torri dy galon fel hyn, tybed sut mae Romeo a Juliet yn teimlo heno?

Fe fydd yna andros o lanast, ond dyna ddiwedd y Coraniaid hefyd, a fyddi di a dy bobl ddim gwaeth." "Wyt ti'n siŵr?" "Yn berffaith siŵr.

Wyt ti'n cofio?" Hwyliodd y llong heibio'r morglawdd, a'i thrwyn yn ffroeni'r môr agored.

Chei di ddim mynd o gwmpas yn cario baich pechodau'r byd ar dy ysgwyddau, mewn sefyllfa lle nad oes bai arnat ti o gwbl, pr'un a wyt ti am wneud hynny ai peidio.

Ac i ble'r wyt ti'n mynd rwan?' 'Yr ydw i wedi cael gwahoddiad i dy Emrys i de.' 'Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno.' Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn.

wyt<span style="color:darkred;font-weight:bold"> wyt wyt i?

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

'Proffwyd tywydd go wael wyt ti, Iestyn,' meddai.

Ydw i'n iawn?" "Wyt.

"Be'wyt ti'n 'i freuddwydio, rŵan?" gofynnodd Sandra iddo'n sydyn.

A gwylia wrth ymlafnio o gwmpas nad ei di ddim yn fwy o ffwl nag wyt ti.

"Wyt ti'n fy nghlywed i'n iawn rŵan?" meddai Llefelys.

Un llyfr sydd, un ffynnon, un dysgawdwr, un goleuni, ac ymadroddion fel 'llyfr y bywyd, ffynnon dwfr y bywyd, ni a wyddom mai dysgawdwr wyt Ti wedi dyfod oddi wrth Dduw, Goleuni y byd ydwyf i' yn dod i'r cof.

Ni sy'n rheoli'r deyrnas yma bellach, os wyt ti'n cofio.

gwaeddodd gethin a huw gyda 'i gilydd gilydd ble 'r wyt ti, ffred?

Wyt ti wedi mygio rhywun rywdro?'

'Wyt ti wedi penderfynu rhoi pêl Iorwerth i fi?

'Wel be?' meddai PC Llong 'Wel wyt ti'n fodlon coelio rşan na laddodd Vatilan mo Huws Parsli.

'O tyd yn dy flaen, wir - beth wyt ti'n weld mewn petha fel 'na?' meddai Dilys, yn ddigon blin.

Tafla'r dîs i weld a wyt yn llwyddo i gydio ynddi.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

"Wel," medd y milwr gan dynnu ei gleddyf o'r wain, "efallai ei fod yn farw, ond gwell i mi wneud yn siŵr," Mae'n codi'r cleddyf uwch ei ben ac ar fin dy drywanu pan wyt yn troi'n sydyn, yn codi dy goesau ac yn ei gicio yn ei stumog.

"Ond wyddost ti Gruff, rydw i'n teimlo rhyw fur rhwng fy mhlant a minna, rhyw ddieithrwch..." "Wyt ti?

A wyt ti wedi dod i'n difetha ni?

"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.

Siaradodd Ef â mi yn nyfnder fy enaid: 'Pam wyt ti'n drist?' ebe Ef.

Rşan, be wyt ti'n feddwl o'n palas ni ş dipyn o wyrth, yntê?'

Wyt ti'n ceisio cyhuddo'r ferch o fynd i'r fath eithafon a lladd ei hunan dim ond er mwyn ein brifo ni?" "Nac ydw, wrth gwrs, nid dim ond er mwyn hynny.

Wyt ti'n cofio fel y bydden ni'n lluchio llinella o gynganeddion at ein gilydd wrth fynd adra o'r ysgol, fel mae plant heddiw yn lluchio pêl?

Drwy ganghennau'r coed gweli fod yna lwybr arall yn torri ar draws yr un yr wyt yn ei ddilyn.

Os wyt ti, cofia nad jobyn i'r CID yw e, felly paid mynd o dan dra'd, ond fe fydd e'n gyfle i ti gwrdd â pobol.'

'Be wyt ti'n ei wneud?

Wyt ti'n glyfar?

'Wyt ti'n siŵr na wnaeth o fawr o'i le?'

Wyt ti'n deall?'

Dyden ni ddim eisiau rhyw bansi gwan a thila ac ofnus yn y criw yma, wyt ti'n deall?

'Wyt ti'n gwybod ble mae o?' 'Mae gen i syniad.' Gobeithiai Dei nad oedd y llall yn clywed y cryndod yn ei lais.

'Wyt ti wedi cael merch rywdro?' Llyncodd Dei ei boer drachefn er bod ei geg yn sych.

Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.

"'Na beth wyt ti'n feddwl.'

'Mi wyt ti'n hogyn da, William.

Er nad oes i Ti ddechrau dyddiau na diwedd blynyddoedd, yr wyt yn ein hadnewyddu ni o ddydd i ddydd.

Os wyt ti isio g-gneud rhwbath g-gwerth chweil, helpa fi i g-godi'r Albert druan 'ma'n ôl ar ei draed.'

'A sut wyt ti'r hen law?' wrth Rhys.

'Wyt ti'n dwp neu beth, y crwt difaners!' gwichiodd Mini arno.

'Wyt ti ddim yn meddwl y byddai'n well i ni fynd yn ôl?' meddai Iago.

Ac mae'n amser iti gael gwybod Pitar, nad wyt ti'n ddim on niwsans wedi hanner ei berffeithio, a gwylia rhag i dy gysgod dy fychanu'.

I ganfod a wyt yn llwyddo i ddal dy afael arno tafla'r dis.

Wyt ti'n galed?

Wyt ti'n fentrus?' 'Wel .

'Be wyt ti'n feddwl o garcharu Vatilan druan am beidio trio dy ladd di 'ta?'

Rwyt ti wedi mynd yn fwy o Sais yn dy ffordd nag wyt ti o Gymro.

Gobeithio nad wyt ti ddim yn dechre'r lol yna eto?

"Wyt ti'n meddwl fod yna gysylltiad rhwng y ddau?

Mae o wedi cael mwy o ferched nag wyt ti wedi eu gweld o gerrig beddau.' Teimlodd Dei y dillad yn cydio yn ei gorff oherwydd y chwys oer oedd yn ei gerdded.

Am be aflwydd wyt ti'n sôn, fachgen?'

'Gan dy fod ti wedi gadael yr ysgol,' meddai Mam, 'pa fath o waith wyt ti am wneud?

Yr wyt yn estyn cyfle yn yr Efengyl i bawb gredu a byw.

Be wyt ti'n ei feddwl o'r syniad, Al?

Ers faint wyt ti wedi bod 'ma?' gofynnodd iddi.

Wyt ti'n 'lyb at dy grwen!

Ofn iddo gymryd ei ffordd ei hun mae o, a'i anwybyddu o, fel cynhyrchydd." "Wyt ti'n meddwl mai un felly ydi o?" "'Dwn i ddim; mae'n bosib.

'Mi ddweda i wrth Kelly Mair gymaint o fabi wyt ti.'

Ond anghofiwyd paentio'r to mewn un o'r tai bach dilheintiedig hyn ac arno mewn llythrennau mân, mân, yr oedd yn rhaid ymestyn ar flaenau'ch traed i graffu arnynt, oedd y geiriau hyn: "Os wyt ti'n medru darllen hwn, rwyt ti'n gwlychu dy esgidiau."

A'r cwestiwn ar wefusau pawb wrth gerdded o amgylch oedd "Wyt ti'n cofio.

Helô, Rhys; a sut wyt ti, pwt?' gofynnodd i Mali a gwenodd Mali lond ei hwyneb.

'Wyt ti am weld Rick y prynhawn yma?'

"Wel, na, 'dwy ddim..." "Nag wyt, neu 'faset ti ddim yn sôn am ddiddanwch yn yr un anadl â hi." "Blin?" "Nid hynny'n gymaint â'i bod hi wedi mynd i dra-arglwyddiaethu yn y fan acw." "Beth am y misus?" "Mae'r hulpan honno o dan yr argraff y caiff hi gydaid o bres ar 'i hôl os bydd hi farw, ac mae'nhw fel person a chlochydd hefo'i gilydd.

Wyt ti wedi dal rhywbeth?' 'Drycha!

Hyd yn oed os wyt ti'n teimlo y dylset ti fod yn gwneud rhywbeth arall.

"Wyt ti eisiau help llaw i godi ar dy draed?

'Wyt ti'n meddwl, Lisa?'

Pam wyt ti'n edrach arna i fel'na?

Does dim ots os nag wyt ti.

'Be wyt ti wedi'i weld, 'rhen goes?' gofynnodd y broga'n ffroenuchel, gan deimlo fel brenin ar ôl y fath dderbyniad.

Wyt ti am roi i mewn a gwerthu'r hen le?" "Mi fasa'n chwith iawn...

'Pryd wyt ti am ddachre mas?'

Hwyrach y coleddai Harri syniadau rhy uchel am Gwen ymhob ystyr' a phrotest Gwen 'Harri, wyt ti wedi blino arna' i?' Y mae E.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Yr wyt ti'n anghofio dy lyfr.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

Beth wyt ti'n feddwl o'r darlun?" "A deud y gwir yn onest," meddai Sam, "dydw i'n gweld fawr ddim yno fo.

Dyna ddangos cyn lleied wyt ti'n ei w'bod am beth sy'n mynd 'mlaen yn y lle 'ma.' 'Byddet ti'n synnu faint dw i'n ei w'bod am bawb a phopeth.

'Wyt ti ise mynd 'fyd?

'Wyt ti'n dod ffor' hyn bob wythnos?'

Mae'r lle a'r bobl yn ddyfnach ynot nag yr wyt yn sylweddoli.

Fe ddweda i wrthych chi ble'n union maen nhw.' 'Beth wyt ti am imi'i wneud â nhw?' 'Gofalu bod fy ŵyr, Seimon, yn eu cael.

Mae'r llwybr yr wyt yn ei ddilyn yn rhedeg o'r gogledd i'r de.

'Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'te?'

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

Iaith ein cartref ydwyt hefyd, Iaith aelwydydd Cymru lân, Yr wyt ti'n gwresogi bywyd Mewn diareb bêr a chân; Hoffwn di - wyt athronyddol - Ond wyt fwy na hyn i ni: Wyt in' calon yn naturiol, Caniad cartref yw dy si.

"Paid â dweud nad wyt ti ddim yn gwybod yr hanes!" Roedd hi'n amlwg bod yr ych wedi'i synnu'n fawr.

Yn lle wyt ti'n byw?