Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wythdegau

wythdegau

'Roedd John Evans yn sôn am yr argae a foddodd bentref Llanwddwyn yn Sir Drefaldwyn yn wythdegau'r ganrif flaenorol er mwyn cyflenwi Lerpwl â d^wr.

'Dros iaith a chymuned' oedd slogan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau'r wythdegau.

Elfennau o'r Chwedegau sydd yma ond dyma'r union elfennau a wireddwyd yn llwyr yn yr Wythdegau mewn dull llawer mwy ciaidd.

Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.

'Roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar ddechrau'r wythdegau.

Gellir galw'r gwaith yn fath o nofel hanes, gan mai adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yr ysgrifennwyd ef, a'i fod yn cyfeirio'n ol at ddiwedd wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Oedd, roedd Siarad Cyhoeddus ar bedestl cadarn yn y Sir erbyn canol y chwedegau ac y mae'n parhau mor fyw a phwysig heddiw yn yr wythdegau.

Mae hyn yn adlewyrchiad o duedd gweinyddwyr trwy'r saithdegau a'r wythdegau i weld ysgolion bach fel 'problemau' costus i'w cau pan deuai cyfle oherwydd fod nifer y disgyblion wedi disgyn i'r lefel mympwyol o 16.

Dim ond un Alun Jones sydd gennym, ond er mor annhebyg iddo yw nofelwyr eraill diwedd y saithdegau a'r wythdegau, mae'n ymddangos i mi inni gael adfywiad ym maes y nofel yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Dafydd Jones, Dremddu Fach oedd awdur y traethawd buddugol ar lên gwerin, hen arferion a thraddodiadau pobol y plwy yn wythdegau'r ddeunawfed ganrif.

Ond 'roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar dechrau'r wythdegau.

Ar wahân i ffilmiau Saesneg mor wahanol i'w gilydd â My Beautiful Landrette a Howard's End a sawl un arall, fe fyddai rhai'n dadlau mai'r ffilm Ffrengig, Manon des Sources, oedd un o ffilmiau mawr yr wythdegau mewn unrhyw iaith, ac yr oedd honno'n ffilm hynod o lenyddol.

Yr oedd y Rhyfel Degwm yn frwydr economaidd yn y bon, wrth gwrs, oherwydd y sbarc a gynheuodd y tan oedd y dirwasgiad amaethyddol ar ddechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Ond y mae hanes yn bwnc sydd wedi cynyddu mewn bri yng Nghymru yn ystod yr wythdegau, ac wedibod yn destun trafod brwd, fel petai bellach yn bwnc gwir berthnasol inni oll.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd.

Ar wahân i gyfnod byr o ymddeoliad o fyd gwleidyddiaeth yn yr wythdegau, mae Chretian, sy'n hanu o deulu dosbarth gweithiol yn Que/ bec, wedi bod yn rhan o'r dodrefn gwleidyddol yn Ottawa ers dyddiau P.I

Os oedd brwdfrydedd y dysgwyr yn dod â hyder newydd i Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n groes i'r hyder hwnnw.

Yn ystod yr wythdegau yn arbennig, sylweddolwyd bod rhaid ymateb i'r difrod a achoswyd gan yr amaeth newydd hwn i'r amgylchfyd.

Dyma'r gyntaf o'r gyfres o awdlau marwnad a gafwyd yn yr wythdegau.

Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.

Fe'i cysylltir â thactegau dan-din a gwrth-genedlaethol adeg ailwampio'r cyfansoddiad ar ddechrau'r wythdegau, pan gafodd Que/ bec ei diystyru'n warthus a'i gadael yn ei gwendid ar noson y 'cyllyll hirion'.

Yn fras, rhaid symud y pwyslais oddi wrth fuddsoddi o'r tu allan i fuddsoddi cynhenid, a sicrhau bod hynny o fuddsoddi o dramor a ddenir o well ansawdd na'r swyddi cyflog isel, sgiliau rhoi-pethau-at-ei-gilydd a welsom yn ystod yr wythdegau.

Felly mae'r dystiolaeth ynglŷn ag un o ymgyrchoedd radicalaidd pwysicaf yr wythdegau wedi eu diogelu ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Ac yntau wedi treulio blwyddyn yn astudio yno ynnechrau'r wythdegau, ar adeg twf yr undeb annibynnol solidarnos‡, sut brofiad oedd dychwelyd i ddinas hynafol Krako/ w?

Yn yr Wythdegau, yr elfen fwyaf ddiamddiffyn fyddai'r elfen o fod yn weithiwr ac o beidio a rheoli.

Yr oedd Haughey yn arweinydd plaid fwya'r wlad, Fianna Fail, ac yn taoiseach - Prif Weinidog - am gyfnod yn ystod yr wythdegau.

Cafwyd sawl achos yn yr wythdegau ac ailgyflwynwyd dipio gorfodol.

Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.

Dyna'r syniad oedd hefyd y tu ôl i un o ddarganfyddiadau mwyaf cyffrous byd cemeg yr wythdegau, ac sy'n parhau yn achos cyffro mawr yn y nawdegau yn ogystal.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.

Dyma gyfnod y delfrydau cyn cyrraedd hunanoldeb yr wythdegau, y cyfnod pan oedd yr ifanc yn poeni am bethau'r byd.

Dyna bosteri hysbysebu'r Bwrdd Glo wedyn, oedd yn boblogaidd iawn ar ddechrau'r wythdegau cyn iddyn nhw gau'r pyllau glo i gyd - "Come Home to a Real Fire% rhywun wedi ychwanegu "Buy a cottage in Wales".