Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wythnos

wythnos

Arsylwch tros yr wythnos ddilynol pwy sy'n bwyta beth a chasglwch gronfa o wybodaeth am eu hoff fwydydd.

Bu+m yn bur wael a chollais y plentyn yn wythnos oed.

Yr wythnos yma, saith allan o ddeg gafodd Rhodri Morgan gan Paul Starling o'r Welsh Mirror am ei berfformiad fel Prif Weinidog Cymru.

Craig White, sydd heb chwarae gêm dosbarth cynta ers chwe wythnos, yw'r ffefryn i chwaraen ei le.

Ond Siapan yr wythnos diwethaf yr oedd rhywbeth i godi ei galon.

Ni chadwai hyn ni, fodd bynnag, rhag dilyn gofynion gwladwriaethol y cyfnod a hawlid ugain wythnos arall o'r flwyddyn at wasanaeth y wlad.

Er mawr syndod i Lludd, roedd yn ei ôl yn Llundain gydag ateb Llefelys ymhen wythnos union.

Hon oedd ei gêm gynta ers saith wythnos, eto oherwydd anaf.

Rhagor o ddogni, dim ond gwerth swllt (5c) o gig ffres i bob person yr wythnos.

Er bod gennyf chwe wythnos i baratoi yr oedd profiad wedi dysgu na ddylwn laesu dwylo.

Wythnos o leiaf, a chyda thipyn o stilio hyd yn oed ddeng niwrnod.

Yn ystod yr wythnos cyflwynodd Adam Walton sioe ar gyfer y gynulleidfa roc a chyflwynodd Kevin Hughes sioe gerddoriaeth nosweithiol o'r siartiau.

Tro'r ail garfan nawr, a dysgais am dair wythnos eto, a sioe ar ei therfyn fel o'r blaen.

Ond ni fydd y swyddfa'n Fangor yn cau, meddai llefarydd ar ran yr awdurdod yr wythnos hon.

Dymuna Olwen Rees Jones, Danolfan, Wern, Trefnydd casgliad at y Groes Goch yn Llanfairpwll yn ystod wythnos y Groes Goch ym mis Mai ddiolch i drigolion Llanfairpwll am eu cefnogaeth i'r gronfa ac i ddiolch yn arbennig i'r holl gasglwyr am eu gwaith ardderchog.

Roedd eraill ar eu ffordd i'r wlad lle bydden nhw'n treulio tair wythnos yn cynaeafu dail baco.

Gwasanaeth Undebol Cynhaliwyd gwasanaeth undebol yng nghapel Canaan ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol.

O drwch blewyn yr wythnos hon, llwyddodd Plaid Unoliaethwyr Ulster i ddyrchafu eu llygaid uwchben greddfau hanesyddol y llwyth Protestannaidd.

Roedd yn arferol chwarae tair gêm mewn wythnos, sef brynhawn Mercher, y Sadwrn a'r Sul.

Peidiwn ag anghofio ychwaith am y gweithgareddau a drefnir yn flynyddol gan y Gwasanaeth Llyfrgell, megis yr Wyl Lyfrgell ac Wythnos Llyfrau Plant.

Fel y bu Cymru'r Byd a'r Post Cyntaf yn ddarogan ers wythnos mae Robert Croft yn ôl yng ngharfan griced Lloegr ar gyfer y daith i Sri Lanka yn y flwyddyn newydd.

Dilynwch y siart ar BBC Cymru'r Byd bob wythnos.

Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf.' 'A rwan, to business,' meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Penwythnos Addysg Wleidyddol yr wythnos hon (Ionawr 15-17) fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer dyfodiad y Cynulliad.

Yr wythnos yma cafwyd cadarnhad pendant fod cwmnïau recordio Sain a Gwynfryn yn ymuno.

Nid oedd yn dod yn ôl, meddai, am wythnos eto, os byddant yn gallu gwneud hebddi, gan fod eu modryb Dilys yn falch o gael ei chwmni a'i help.

Methais â chael visa i ddychwelyd i Saudi Arabia lle bu+m am chwech wythnos ar ôl i Irac oresgyn Kuwait.

Ond yn y cyfamser, i roi halen ar y briw, bydd gwrandawiadau yn erbyn Moore a Jenkins yn digwydd rywbryd yn ystod yr wythnos hon.

Ond roedd yn rhaid iddi weithio ddwy shifft bnawn yr wythnos, beth bynnag.

Bur wythnos ddiwethaf yn un dda ar gyfer ymosod ar yr Almaenwyr wrth i BMW adael i'r hen Rover fynd rhwng y cwn ar brain.

Ac yn addas iawn, mae'r brifysgol yn gweld golau dydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.

o'r holl lythyrau a gyhoeddwyd yn y wasg yr wythnos diwethaf dim ond un oedd yn cyfrif.

O'n i'n chwarae kissogram ar Pobol y Cwm am dri mis hefyd, ond dim ond unwaith yr wythnos oedd e'n mynd mas bryd hynny%.

Mynegodd Alun Michael anfodlonrwydd gydag awgrym mewn dogfen ymgynghorol gan y Swyddfa Gymreig ei hun y byddai'n rhaid aros wyth wythnos am fersiwn dwyieithog o'r cofnodion tra byddai fersiwn Saesneg ar gael ymhen tridiau.

Roedd ei thad yn ei afiaith yn trafod cynlluniau'r Llety o wythnos i wythnos.

Dywedais eisoes, fod bwyd y gwesty'n sal - felly, rhaid oedd cynllunio ymgyrch fwyta am wedill yr wythnos.

Darllenais gyda diddordeb, felly, yr hyn a fu llywydd Cymanfa Gyffredinol yr eglwys yn yr Alban - y Kirk - yn ei ddweud yr wythnos diwethaf.

Y sengl yr wythnos diwethaf oedd un newydd Embrace - I Wouldnt Wanna Happen To You; ond ar gyfer yr wythnos i ddod, y grwp Sing Sing fydd yn cael ein sylw, efo eu sengl newydd nhw Feels Like Summer syn cael ei rhyddhau ar 21 Awst.

Y nod oedd recordio digon o ddeunydd yn ystod taith ffilmio tair wythnos yn y Swdan i'n galluogi i ddangos hanner dwsin o raglenni i'w defnyddio yn rheolaidd mewn dosbarthiadau, a phob un yn dangos rhyw agwedd arbennig ar ddatblygu.

Y mae'r gwebost yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yr wythnos nesaf.

Heddiw mewn llawer ardal gwelir adeilad mawr ar agor i gynulliad bychan ar y Sul ac yna ar glo am weddill yr wythnos.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer safle'r wythnos danfonwch nhw atom.

Er gwaethaf ofnau Mari aeth yr wythnos rhagddi yn weddol ddihelynt a Robin, ar Iol ei ymateb byrbwyll cyntaf, wedi ymgymryd yn ddigon llawen - diddanu Llio fach a'r bechgyn bob gyda'r nos.

Pum wythnos yrŵan a deufis wedyn.

Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig yn yr Unol daleithiau.

Yr wythnos hon bydd yn rhaid i ti roi pethau yn nhrefn eu pwysigrwydd.

Rhyfedd na fyddai teulu a gafodd gymaint o brofiad o hynny wedi dysgu'r wers honno ac wedi bod yn llai parod i agor ei ddrysau fel y gwnaed yr wythnos diwethaf.

Ffliw Hong Kong yn lladd 2,850 ym Mhrydain mewn wythnos.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

Roedd y gwaith i'r gystadleuaeth i fod i mewn ganol yr wythnos.

Maen bosib i'r ffaith fod Peter de Villiers wedi torri ei asennau yn y gêm yn erbyn Abertawe a bod e mâs o'r gêm am dair wythnos wedi rhoi mwy o bwyse arnyn nhw i gosbi Garin yn fwy nag Andy Moore.

'Dwn i ddim pwy rôi i gi yno, heb sôn am blentyn." "Ia, 'ntê, a'r cyflogau'n fychan." "Bychan, i%a; meddyliwch chi rŵan am John yma, yn cael dim ond pymtheg swllt yn yr wythnos ar ôl gweithio blynyddoedd am ddim, a sefyll tu ôl i'r cownter o fore gwyn tan nos, a'r hen ddyn hwnnw'n cerdded o gwmpas y siop, efo'i hen lygada ym mhob man.

(d) Ceisiadau heb eu dyfarnu o fewn cyfnod o wyth wythnos:- CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar geisiadau a oedd heb eu dyfarnu o fewn cyfnod o wyth wythnos:- Byrfodd - DD - dyddiad derbyn y cais

Roedd honno'n un o'i dasgau rheolaidd, yn un y bu'n ei gwneud ers tri mis, byth er iddi gael ei ffordd a mynd i ddau ddosbarth yr wythnos.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun dywedodd ei fod yn rhoi'r bai i gyd ar Adran Ddrama Cyngor Celfyddydau Cymru.

'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt.

Yn ystod ei thair wythnos ym Mhrydain bu Justine Merritt yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberystwyth a Bangor.

Y GARTH - CLEIFION: Roedd yn ddrwg gennym glywed for Mr Dyfnallt Morgan, Cilan, Garth Ucha yn yr ysbyty ers dros wythnos bellach.

Yn anffodus mae Gang Bangor ar wyliau am ryw hyd felly ni fydd yna sengl yn cael ei dewis ar gyfer yr wythnos yma, ond mi rydan ni'n awgrymu eps newydd Topper ac Epitaff i chi ar gyfer yr wythnos yma.

Yn ôl cynlluniau Mr Hague, byddai pensiynwyr sengl yn cael cynnydd o £5.50 yr wythnos; £7 yr wythnos i gyplau dros 65; £7.50 i rai sengl dros 75; a £10 yr wythnos i gyplau dros 75.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sylwodd Cymdeithas yr Iaith ar gefnogaeth gynyddol i'w galwad am Ddeddf Iaith.

Datblygwyd polisi ymarfer da, a dethlir Wythnos Gwirfoddoli trwy gynnal gweithgareddau trwy'r sir.

Ffars y garreg las oedd testun Y Byd ar Bedwar (HTV/S4C) yr wythnos hon.

Wythnos ar ôl y cyfarfod roedd golygyddol Y Cymro yn canolbwyntio ar y broblem.

Tra medrwch chi a fi fanejio'n go lew ar chwe bar o siocled yr wythnos y mae'r Siocaholics hyn yn dibynnu ar siocled am y pumed ran o'u calori%au.

Byddaf yn llogi hofrennydd i ollwng tocyn record i lawr y simdde yr wythnos nesaf.

'Bydde Mai 5 yn anodd achos bod gêm derfynol Cwpan yr FA yr wythnos wedyn.

Soniai am streic setiwrs yng Ngogledd yr Unol Daleithiau, a phob setiwr yn y De'n cyfrannu tair doler yr wythnos at eu cadw allan.

Cawsom y ffisig, rhoddasom ef fesul tropyn yn ôl y gorchymyn ac ymhen yr wythnos daeth newid ynddi.

Does dim pwynt dweud wrth rywun am fynychu dosbarth unwaith yr wythnos am flwyddyn os ydy e neu hi am fod yn rhugl ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

Tra bu Kate am ei acupuncture mi fum i yn ffotocopïo gwaith ar gyfer yr wythnos nesaf.

Am hanner dydd, cinio, yr unig dro yn yr wythnos y caem gig, a phwdin reis digymar Mam i orffen.

Petai Lewis Olifer a Deilwen Puw wedi dyfod yn ystod yr wythnos yr oedd ef acw, ni allwn lai na'i wahodd.

Brathodd ei gwefus a chrychodd ei thalcen mewn gofid ac nid oedd atgoffa'i hun bod ei mam wedi aros yn y Ty Mawr am fwy na thair wythnos cyn hyn, yn fawr o gysur.

Roedd Carwyn a Norman fel dau gadfridog yn paratoi cynllunie ar gyfer brwydr fawr, a phythefnos cyn y ffeinal, bu'r tîm yn ymarfer bob nosweth am wythnos gyfan, fel bod y peiriant yn rhedeg ar ei ore,

Mab Trefor Bach (i bobl Llangefni) yw Barry Williams, Athro ym Manceinion ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae wedi profi ei hun yn ddramodydd o fri.

Rhoddodd gryn dreth arno'i hun gyda'r gwaith hwn oherwydd ar adegau byddai allan ddwy noson neu dair yn ystod yr wythnos yn ei ddosbarthiadau a hynny ym mhob tywydd.

Ni fydd mewnwr Llanelli, Guy Easterby, yn gallu chwarae am o leia chwe wythnos ar ôl torri ei goes yn erbyn Castell Nedd ar Y Strade echdoe.

Wel, mi gefais i fodd i fyw yr wythnos ddiwethaf.

I gyd fynd ar lawnsio mi fydd yn recordio sesiwn acwstig i ni ar Gang Bangor i'w ddarlledu mewn pythefnos ac yn ystod yr wythnos honno mi fydd yna gopiau o'r ep wediu harwyddo gan Topper fel cystadleuaeth.

Er gwaethaf y gofid ynghylch colli 73 o swyddi'r wythnos yn y byd amaethyddol a'r colledion pellach ym myd cynhyrchu, cafwyd arwyddion cadarnhaol.

Caiff gwylwyr Aria yr wythnos hon gyfle i fwynhau ei lais bariton soniarus a phwerus.

Ddechrau'r wythnos, fe ddywedodd llefarydd eu bod "os yn bosib, yn mynd i ystyried cyflogi stiwardiaid Cymraeg."

Yr wythnos ola aethon ni i'r Eisteddfod yn Nhrelew.

Yr un wythnos y dywedwyd hynny datgelwyd hefyd fod merched gyda geirfa dda yn cael eu hystyried yn fwy secsi gan ddynion na merched llai rhugl.

'Mae wedi bod yn wythnos dda,' meddai Brewerton ar y Post Cyntaf.

Yr wythnos ddiwethaf yng Nghymru'r Byd cyhoeddwyd hanes am gyhuddiadau o dwyll ac ystryw yn erbyn rhai o wleidyddion amlwg Iwerddon.

Credir mai un newid fydd yn yr uned oedd i fod i ddechrau'r gêm yn erbyn Iwerddon wythnos yn ôl.

Tybed betho oedd ffrwyth yr wythnos honno?

Mae cynyrchiadau'r BBC yn cyfrannu'n sylweddol i 20 Rhaglen Uchaf S4C bob wythnos.

Bydd maswr Cymru, Neil Jenkins, yn cael triniaeth yn gynnar yr wythnos nesa ar fân-anaf i'w ben-glîn.

Hefyd, ewch i weld be sydd ar stereo Gang Bangor yr wythnos yma.

Ers wythnos roedd Therosina wedi gorchymyn ei milwyr i fynd i mewn i wlad y Madriaid i adfer trefn yno _ meddai hi.

Cyn hynny bydd Giggs yn gorfod colli taith ymarfer Cymru i La Manga yr wythnos nesaf.

AIL-DREFNU'R DODREFN - Wythnos Dylan Iorwerth

Dyma'r ail ddadl am chwarae brwnt o fewn wythnos i D. R. Davies.