Cymerer wedyn ran olaf Soned XXXI: Cusana'r lloer y lli, mae'r ffrydiau'n dwyn I'r wendon serch-sibrydion llyn a llwyn, Ac awgrym ddaw i ddyn drwy gyfrin ddor Y cread o ryw undeb dwyfol hardd A dreiddia drwy'r cyfanfyd; tithau'r Nos, Delweddu wnei y dylanwadau cudd; O'r llwydwyll byw-ymrithia i wyddfod bardd Ei ddelfryd hoff, a genir odlig dlos Neu awdl gain neu farwnad felys-brudd.
Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.