Er ei bod hi'n anodd egluro pam, mae'r gân hon yn atgoffa rhywun o arddull Doves – grwp poblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn 2000 – ac mae hi'n eithaf gwahanol i'r hyn sydd wedi cael ei rhyddhau gan Zabrinski yn y gorffennol.
Er mai grwpiau indie a geir gan amlaf, fel Zabrinski a Derrero, yr ail artist i ryddhau sengl oedd MC Mabon sy'n golygu fod cerddoriaeth hip-hop hefyd yn rhan o agenda Boobytrap.