Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Eritrea fod ymosodiad ar Zalambessa, tua 100 cilomedr i'r dde o brif-ddinas Eritrea, Asmara, wedi cael ei yrru'n ôl ddydd Mawrth.
Mae Prif Weinidog Ethiopia Meles Zenawi wedi proffwydo y bydd y rhyfel ar ben o fewn ychydig o ddyddiau wedi i'w filwyr ennill tir yn gyflym yng nghyffiniau Zalambessa.