Index: Testament Newydd

Detholiad o Celtic Folkore

Sir John Rhŷs

Contributed by: David Wood

Dyma ddetholiad o'r chwedlau Cymraeg yn y llyfr enwog hwn.


t. 33
Yn perthyn i ffarm Bron y Fedw yr oedd dyn ifanc wedi cael ei fagu, nis gwyddent faint cyn eu hamser hwy. Arferai pan yn hogyn fynd i'r mynydd yn Cwm Drywenydd a Mynydd y Fedw ar ochr orllewinol y Wyddfa i fugeilio, a byddai yn taro ar hogan yn y mynydd; ac wrth fynychu gweld eu gilydd aethant yn ffrindiau mawr. Arferent gyfarfod eu gilydd mewn lle neillduol yn Cwm Drywenydd, lle'r oedd yr hogan a'r teulu yn byw, lle y byddai pob danteithion, chwareuyddiaethau a chanu dihafal; ond ni fyddai'r hogyn yn gwneyd i fyny a neb ohonynt ond yr hogan.

Diwedd y ffrindiaeth fu carwriaeth, a phan soniodd yr hogyn am iddi briodi, ni wnai ond ar un amod, sef y bywiai hi hefo fo hyd nes y tarawai ef hi a haiarn.

Priodwyd hwy, a buont byw gyda'u gilydd am nifer o flynyddoedd, a bu iddynt blant; ac ar ddydd marchnad yn Gaernarfon yr oedd y gwr a'r wraig yn meddwl mynd i'r farchnad ar gefn merlod, fel pob ffarmwr yr amser hwnnw. Awd i'r mynydd i ddal merlyn bob un.

Ar waelod Mynydd y Fedw mae llyn o ryw dri-ugain neu gan llath o hyd ac ugain neu ddeg llath ar hugain o led, ac y mae ar un ochr iddo le têg, ffordd y byddai'r ceffylau yn rhedeg.

Daliodd y gwr ferlyn a rhoes ef i'r wraig i'w ddal heb ffrwyn, tra byddai ef yn dal merlyn arall. Ar ol rhoi ffrwyn yn mhen ei ferlyn ei hun, taflodd un arall i'r wraig i roi yn mhen ei merlyn hithau, ac wrth ei thaflu tarawodd bit y ffrwyn hi yn ei llaw. Gollyngodd y wraig y merlyn, ac aeth ar ei phen i'r llyn, a dyna ddiwedd y briodas.


t. 39
Y mae hanes am fab i amaethwr a breswyliai yn yr Ystrad, Betws Garmon, pan yn dychwelyd adref o daith yn hwyr un noswaith, ddarfod iddo weled cwmni o'r Tylwyth Teg ynghanol eu hafiaeth a'u gloddest. Syfrdanwyd y llanc yn y fan gan degwch anghymarol un o'r rhianod hyn, fel y beiddiodd neidio i ganol y cylch, a chymeryd ei eilun gydag ef. Wedi iddi fod yn trigo gydag ef yn ei gartref am ysbaid, cafodd ganddi addaw bod yn wraig iddo ar amodau neillduol. Un o'r amodau hyn ydoedd, na byddai iddo gyffwrdd ynddi ag un math o haiarn. Bu yn wraig iddo, a ganwyd iddynt ddau o blant. Un diwrnod yr oedd y gwr yn y maes yn ceisio dal y ceffyl; wrth ei weled yn ffaelu, aeth y wraig ato i'w gynorthwyo, a phan oedd y march yn carlamu heibio gollyngodd yntau y ffrwyn o'i law, er mwyn ceisio ei atal heibio; a phwy a darawodd ond ei wraig, yr hon a ddiflannodd yn y fan allan o'i olwg?


t. 42
Ar brydnawngwaith hyfryd yn Hefin, aeth llanc ieuanc gwrol-ddewr ac anturiaethus, sef etifedd a pherchennog yr Ystrad, i lan afon Gwyrfai, heb fod yn nepell o'i chychwyniad o lyn Cawellyn, ac a ymguddiodd yno mewn dyryslwyn, sef ger y fan y byddai poblach y cotiau cochion - y Tylwyth Teg - yn arfer dawsnio. Yr ydoedd yn noswaith hyfryd loergannog, heb un cwmwl i gau llygaid y Lloer, ac anian yn ddistaw dawedog, oddigerth murmuriad lleddf y Wyrfai, a swn yr awel ysgafndroed yn rhodio brigau deiliog y coed. Ni bu yn ei ymguddfa ond dros ychydig amser, cyn cael difyrru o hono ei olygon a dawns y teulu dedwydd. Wrth syllu ar gywreinrwydd y ddawns, y chwim droadau cyflym, yr ymgyniweiriad ysgafn-droediog, tarawodd ei lygaid ar las lodes ieuanc, dlysaf, harddaf, lunieiddiaf a welodd er ei febyd. Yr oedd ei chwim droadau a lledneisrywdd ei hagweddion wedi tanio ei serch tu ag ati i'r fath raddau, fel ag yr oedd yn barod i unrhyw anturiaeth er mwyn ei hennill yn gydymaith iddo ei hun. O'i ymguddfa dywyll, yr oedd yn gwylio pob ysgogiad er mwyn ei gyfleustra ei hun. Mewn mynud, yn ddisymwth ddigon, rhwng pryder ac ofn, llamneidiodd fel llew gwrol i ganol cylch y Tylwyth Teg, ac ymafaelodd a dwylaw cariad yn y fun luniaidd a daniodd ei serch, a hynny, pan oedd y Tylwyth dedwydd yn nghanol nwyfiant eu dawns. Cofleidiodd hi yn dyner garedig yn ei fynwes wresog, ac aeth a hi i'w gartref - i'r Ystrad. Ond diflannodd ei chyd-ddawnsyddion fel anadl Gorphennaf, ar ei chroch ddolefau am gael ei rhyddhau, a'i hymegnion diflino i ddianc o afael yr hwn a'i hoffodd. Mewn anwylder mawr, ymddygodd y llanc yn dyner odiaethol tu ag at y fun deg, ac yr oedd yn orawyddus i'w chadw yn ei olwg ac yn ei feddiant. llwyddodd drwy ei dynerwch tu ag ati i gael ganddi addaw dyfod yn forwyn iddo yn yr Ystrad. A morwyn ragorol oedd hi. Godrai deirgwaith y swm arferol o laeth oddiar bob buwch, ac yr oedd yr ymenyn heb bwys arno. Ond er ei holl daerni, nis gallai mewn un modd gael ganddi ddyweud ei henw wrtho. Gwnaeth lawer cais, ond yn gwbl ofer. Yn ddamweiniol ryw dro, wrth yrru

Brithen a'r Benwen i'r borfa,

a hi yn noswaith loergan, efe a aeth i'r man lle yr arferai y Tylwyth Teg fyned drwy eu campau yng ngoleuni'r Lloer wen. Y tro hwn eto, efe a ymguddiodd mewn dyryslwyn, a chlywodd y Tylwyth Teg yn dywedyd y naill wrth y llall - 'Pan oeddym ni yn y lle hwn y tro diweddaf, dygwyd ein chwaer Penelope oddiarnom gan un o'r marwolion.' Ar hynny, dychwelodd y llencyn adref, a'i fynwes yn llawn o falchder cariad, o herwydd iddo gael gwybod enw ei hoff forwyn, yr hon a synnodd yn aruthr, pan glywodd ei meistr ieuanc yn ei galw wrth ei henw. Ac am ei bod yn odiaethol dlos, a lluniaidd, yn fywiog-weithgar, a medrus ar bob gwaith, a bod popeth yn llwyddo dan ei llaw, cynygiodd ei hun iddi yn wr - y celai fod yn feistres yr Ystrad, yn lle bod yn forwyn. Ond ni chdsyniai hi a'i gais ar un cyrfif; ond bod braidd yn bendrist oherwydd iddo wybod ei henw. Fodd bynnag, gwedi maith amser, a thrwy ei daerineb diflino, cydsyniodd, ond yn amodol. Addawodd ddyfod yn wraig iddo, ar yr amod canlynol, sef, 'Pa bryd bynnag y tarawai ef hi â haiarn, yr elai ymaith oddi wrtho, ac na ddychwelai byth ato mwy.' Sicrhawyd yr amod o'i du yntau gyda pharodrwydd cariad. Buont yn cyd-fyw a'u gilydd yn hapus a chysurus lawer o flynyddoedd, a ganwyd iddynt fab a merch, y rhai oeddynt dlysaf a llunieiddiaf yn yr holl froydd. Ac yn rhinwedd ei medrusrwydd a'i deheurwydd fel gwraig gall, rinweddol, aethant yn gyfoethog iawn - yn gyfoethocach na neb yn yr holl wlad. Heblaw ei etifeddiaeth ei hun - Yr Ystrad, yr oedd yn ffarmio holl ogledd-barth Nant y Betws, ac oddi yno i ben yr Wyddfa, ynghyd a holl Gwm Brwynog, yn mhlwyf Llanberis. Ond, ryw ddiwrnod, yn anffortunus ddigon aeth y ddau i'r ddol i ddal y ceffyl, a chan fod y ceffylyn braidd yn wyllt ac an-nof, yn rhedeg oddi arnynt, taflodd y gwr y ffrwyn mewn gwylltineb yn ei erbyn, er ei atal, ac ar bwy y disgynnodd y ffrwyn, ond ar Penelope, y wraig! Diflannodd Penelope yn y fan, ac ni welodd byth mo honi. Ond ryw noswaith, a'r gwynt yn chwythu yn oer o'r gogledd, daeth Penelope at ffenestr ei ystafell wely, a dywedodd wrtho am gymmeryd gofal o'r plant yn y geiriau hyn:

Rhag bod anwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gôb ei dad;
Rhag bod anwyd ar liw'r can,
Rhoddwch arni bais ei mham.

Ac yna ciliodd, ac ni chlywyd na siw na miw byth yn ei chylch.


t. 49
Ryw noson lawn lloer ac un o feibion Llwyn Onn yn Nant y Betws yn myned i garu i Glogwyn y Gwin, efe a welodd y Tylwyth yn ymloddestu a dawnsio ei hochr hi ar weirglodd wrth lan Llyn Cawellyn. Efe a nesaodd tuag atynt; ac o dipyn i beth fe'i llithiwyd gan bereidddra swynol eu canu a hoender a bywiogrywdd eu chwareu, nes myned o hono tu fewn i'r cylch; ac yn fuan fe ddaeth rhyw hud drosto, fel y collodd adnabyddiaeth o bobman; a chafodd ei hun mewn gwlad harddaf a welodd erioed, lle'r oedd pawb yn treulio eu hamser mewn afiaeth a gorfoledd. Yr oedd wedi bod yno am saith mlynedd, ac eto nid oedd ddim ond megis breuddwyd nos; ond daeth adgof i'w feddwl am ei neges, a hiraeth ynddo am weled ei anwylyd. Felly efe a ofynodd ganiatad i ddychwelyd adref, yr hyn a roddwyd ynghyd a llu o gymdeithion i'w arwain tua'i wlad; ac yn ddisymwth cafodd ei hun fel yn deffro o freuddwyd ar y ddol, lle gwelodd y Tylwyth Teg yn chwareu. Trodd ei wyneb tuag adref; ond wedi myned yno yr oedd popeth wedi newid, ei rieni wedi meirw, ei frodyr yn ffaelu ei adnabod, a'i gariad wedi priodi un arall. - Ar ôl y fath gyfnewidiadau efe a dorodd ei galon, ac a fu farw mewn llai nag wythnos ar ôl ei ddychweliad.


t. 55
Os bydd anwyd ar fy mab,
Rho'wch am dano gob ei dad;
Os anwydog a fydd can,
Rho'wch am dani bais ei mam.


t. 89
Yr oedd gwr ieuanc o gymydogaeth Drws y Coed yn dychwelyd adref o Beddgelert ar noswaith loergan lleuad; pan ar gyfer Llyn y Gader gwelai nifer o'r boneddigesau a elwir y Tylwyth Teg yn myned trwy eu chwareuon nosawl. Swynwyd y llanc yn y fan gan brydferthwch y rhianod hyn, ac yn neillduol un o honynt. Collodd y llywodraeth arno ei hunan i'r fath raddau fel y penderfynodd neidio i'r cylch a dwyn yn ysbail iddo yr hon oedd wedi myned a'i galon mor llwyr. Cyflawnodd ei fwriad a dygodd y foneddiges gydag ef adref. Bu yn wraig iddo, a ganwyd plant iddynt. Yn ddamweiniol, tra yn cyflawni rhyw orchwyl, digwyddodd iddo ei tharo a haiarn ac ar amrantiad diflannodd ei anwylyd o'i olwg ac nis gwelodd hi mwyach, ond ddarfod iddi ddyfod at ffenestr ei ystafell wely un noswaith ar ol hyn a'i annog i fod yn dirion wrth y plant a'i bod hi yn aros gerllaw y ty yn Llyn y Dywarchen. Y mae y traddodiad hefyd yn ein hysbysu ddarfod i'r gwr hwn symud i fyw o Ddrws y Coed i Ystrad Betws Garmon.


t. 94
Yr oedd ystori am fab Braich y Dinas a adroddai y diweddar hybarch Elis Owen o Gefn y Meusydd yn lled debyg i chwedl mab yr Ystrad gan Glasynys, sef iddo hudo un o ferched y Tylwyth Teg i lawr o Foel Hebog, a'i chipio i mewn i'r ty drwy orthrech; ac wedi hynny efe a'i perswadiodd i ymbriodi ag ef ar yr un telerau ag y gwnaeth mab yr Ystrad. Ond clywais hen foneddiges o'r enw Mrs. Roberts, un o ferched yr Isallt, oedd lawer hyn na Mr. Owen, yn ei hadrodd yn wahanol. Yr oedd yr hen wreigan hon yn credu yn nilysrwydd y chwedl, oblegid yr oedd hi 'yn cofio rhai o'r teulu, waeth be' ddeudo neb.' Dirwynnai ei hedau yn debyg i hyn: - Yn yr amser gynt - ond o ran hynny pan oedd hi yn ferch ifanc - yr oedd llawer iawn o Dylwyth Teg yn trigo mewn rhyw ogofau yn y Foel o Gwm Ystradllyn hyd i flaen y Pennant. Yr oedd y Tylwyth hwn yn llawer iawn harddach na dim a welid mewn un rhan arall o'r wlad. Yr oeddynt o ran maint yn fwy o lawer na'r rhai cyffredin, yn lan eu pryd tu hwnt i bawb, eu gwallt yn oleu fel llin, eu llygaid yn loyw leision. Yr oeddynt yn ymddangos mewn rhyw le neu gilydd yn chwareu, canu ac ymddifyru bob nos deg a goleu; a byddai swn eu canu yn denu y llanciau a'r merched ifainc i fyned i'w gweled; ac os byddent yn digwydd bod o bryd goleu hwy a ymgomient a hwynt, ond ni adawent i un person o liw tywyll ddod yn agos atynt, eithr cilient ymaith o ffordd y cyfryw un. Yrŵan yr oedd mab Braich y Dinas yn llanc hardd, heini, bywiog ac o bryd glan, goleu a serchiadol. Yr oedd hwn yn hoff iawn o edrych ar y Tylwyth, a byddai yn cael ymgom a rhai o honynt yn aml, ond yn bennaf ag un o'r merched oedd yn rhagori arnynt oll mewn glendid a synwyr; ac o fynych gyfarfod syrthiodd y ddau mewn cariad a'u gilydd, eithr ni fynai hi ymbriodi ag ef, ond addawodd fyned i'w wasanaeth, a chydunodd i'w gyfarfod yn Mhant - nid wyf yn cofio yr enw i gyd - drannoeth, oblegid nid oedd wiw iddi geisio myned gydag ef yn ngwydd y lleill. Felly drannoeth aeth i fynu i'r Foel, a chyfarfyddodd y rhian ef yn ol ei haddewid, ag aeth gydag ef adref, ac ymgymerodd a'r swydd o laethwraig, a buan y dechreuodd popeth lwyddo o dan ei llaw: yr oedd yr ymenyn a'r caws yn cynhyddu beunydd. Hir a thaer y bu'r llanc yn ceisio ganddi briodi. A hi Mrs. Roberts drwy ba ystryw y llwyddodd i gael hwnnw, ond hynny a fu, a daeth ef i'r ty un noswaith a galwodd ar 'Sibi,' a phan glywodd hi ei henw, hi a aeth i lewygfa; ond pan ddaeth ati ei hun, hi a ymfoddlonodd i briodi ar yr amod nad oedd ef i gyffwrdd a hi a haiarn ac nad oedd bollt haiarn i fod ar y drws na chlo ychwaith, a hynny a fu: priodwyd hwynt, a buont fyw yn gysurus am lawer o flynyddoedd, a ganwyd iddynt amryw blant. Y diwedd a fu fel hyn: yr oedd ef wedi myned un diwrnod i dori baich o frwyn at doi, a tharawodd y cryman yn y baich i fyned adref; fel yr oedd yn nesu at y gadlas, rhedodd Sibi i'w gyfarfod, a thaflodd ynteu y baich brwyn yn ddiredidus tu ag ati, a rhag iddo ddyfod ar ei thraws ciesiodd ei atal a'i llaw, yr hon a gyffyrddodd a'r cryman; a hi a ddiflannodd o'r golwg yn y fan y nghysgod y baich brwyn: ni welwyd ac ni chlywyd dim oddiwrthi mwyach.


t. 100
Yr oedd y wraig hon wedi rhoddi genedigaeth i blentyn iach a heinif yn nechreu y cynheuaf ryw haf blin a thymhestlog: ac o herwydd fod y tyddyn getyn o ffordd oddiwrth lan na chapel, a'r hin mor hynod o lawiog, esgeuluswyd bedyddio y plentyn yn yr amser arferol, sef cyn ei fod yn wyth niwrnod oed. Ryw ddiwrnod teg yn nghanol y cynheuaf blin aeth y wraig allan i'r maes gyda'r rhelyw o'r teulu i geisio achub y cynheuaf, a gadawodd y baban yn cysgu yn ei gryd o dan ofal ei nain, yr hon oedd hen a methiantus, ac yn analluog i fyned lawer o gwmpas. Syrthiodd yr hen wreigan i gysgu, a thra yr oedd hi felly, daeth y Tylwyth i fewn, a chymerasant y baban o'r ryd, a dodasant un arall yn ei le. Yn mhen ennyd dechreuodd hwn erain a chwyno nes deffro y nain, ac aeth at y cryd, lle y gwelodd gleiriach hen eiddil crebachlyd yn ymstrwyrian yn flin. 'O'r wchw!' ebai hi, 'y mae yr hen Dylwyth wedi bod yma;' ac yn ddioed chwythodd yn y corn i alw y fam, yr hon a ddaeth yno yn ddiatreg; a phan glywodd y crio yn y cryd, rhedodd ato, a chododd y bychan i fynu heb sylwi arno, a hi a'i cofleidiodd, a'i suodd ac a'i swcrodd at ei bronnau, ond nid oedd dim yn tycio, parhau i nadu yn ddidor yr oedd nes bron a hollti ei chalon; ac ni wyddai pa beth i wneud i'w ddistewi. O'r diwedd hi a edrychodd arno, a gwelodd nad oedd yn debyg i'w mhebyn hi, ac aeth yn loes i'w chalon: edrychodd arno drachefn, ond po fwyaf yr edrychai arno, hyllaf yn y byd oedd hi yn ei weled; anfonodd am ei gwr o'r cae, a gyrrodd ef i ymholi am wr cyfarwydd yn rhywle er mwyn cael ei gynghor; ac ar ol hir holi dywedodd rhywun wrtho fod person Trawsfynydd yn gyfarwydd yn nghyfrinion yr ysprydion; ac efe a aeth ato, ac archodd hwnnw iddo gymeryd rhaw a'i gorchuddio a halen, a thori llun croes yn yr halen; yna ei chymeryd i'r ystafell lle yr oedd mab y Tylwyth, ac ar ol agor y ffenestr, ei rhoddi ar y tan hyd nes y llosgai yr halen; a hwy a wnaethant felly, a phan aeth yr halen yn eiriasboeth fe aeth yr erthyl croes ymaith yn anweledig iddynt hwy, ac ar drothwy y drws hwy a gawsant y baban arall yn iach a dianaf.


t. 103
Clywais fy mam yn adrodd chwedl am fab y Ffridd, yr hwn wrth ddychwelyd adref o ffair Beddgelert yn rhywle oddeutu Pen Cae'r Gors a welodd beth afrifed o'r Tylwyth Bach yn neidio a phrancio ar bennau y grug. Efê a eisteddodd i lawr i edrych arnynt, a daeth hun drosto; ymollyngodd i lawr a chysgodd yn drwm. A phan oedd felly, ymosododd yr holl lu arno a rhwymasant ef mor dyn fel na allasai symud; yna hwy a'i cuddiasant ef a'r tudded gwawn fel na allai neb ei weled os digwyddai iddo lefain am help. Yr oedd ei deulu yn ei ddisgwyl adref yn gynnar y nos honno, ac wrth ei weled yn oedi yn hwyr, aethant yn anesmwyth am dano ac aethpwyd i'w gyfarfod, eithr ni welent ddim oddiwrtho, ac aed gan belled a'r pentref, lle eu hyspyswyd ei fod wedi myned tuag adref yn gynnar gyda gŵr Hafod Ruffydd. Felly aed tua'r Hafod i edrych a oedd yno; ond dywedodd gŵr yr Hafod eu bod wedi ymwahanu ar Bont Glan y Gors, pawb tua'i fan ei hun. Yna chwiliwyd yn fanwl bob ochr i'r ffordd oddiyno i'r Ffridd heb weled dim oddiwrtho. Buwyd yn chwilio yr holl ardal drwy y dydd drannoeth ond yn ofer. Fodd bynnagg oddeutu yr un amser nos drannoeth daeth y Tylwyth ac a'i rhyddhasant, ac yn fuan efe a ddeffrôdd wedi cysgu o hono drwy y nos a'r dydd blaenorol. Ar ôl iddo ddeffro ni wyddai amcan daear yn mha le yr oedd, a chrwydro y bu hyd ochrau y Gader a'r Gors Fawr hyd nes y canodd y ceiliog, pryd yr adnabu yn mha le yr oedd, sef o fewn llai na chwarter milltir i'w gartref.


t. 106
Dywedir fod lle a elwir yr Hafod Rugog mewn cwm anial yn y mynydd lle y byddai y Tylwyth Teg yn arferol a mynychu; ac y byddent yn trwblio'r hen wraig am fenthyg rhywbeth neu gilydd. Dywedodd hithau, 'Cewch os caniatewch ddau beth cyntaf - i'r peth cyntaf y cyffyrddaf ag ef wrth y drws dorri, a'r peth cyntaf y rhof fy llaw arno yn y ty estyn hanner llath.' Yr oedd carreg afael, fel ei gelwir, yn y mur wrth y drws ar ei ffordd, ac yr oedd ganddi ddefnydd syrcyn gwlanen yn rhy fyr o hanner llath. Ond yn anffodus wrth ddod a'i chawellad mawn i'r ty bu agos iddi a syrthio: rhoes ei llaw ar ben ei chlun i ymarbed a thorodd honno, a chan faint y boen cyffyrddodd yn y ty a'i thrywn yr hwn a estynnodd hanner llath.


t. 138
Ryw ddiwrnod aeth dau gyfaill i hela dwfrgwn ar hyd lannau afon Pennant, a thra yn cyfeirio eu camrau tuagat yr afon gwelsant ryw greadur bychan lliwgoch yn rhedeg yn gyflym iawn ar draws un o'r dolydd yn nghyfeiriad yr afon. Ymaeth a nhw ar ei ol. Gwelsant ei fod wedi myned odditan wraidd coeden yn ochr yr afon i ymguddio. Yr oedd y ddau ddyn yn meddwl mae dwfrgi ydoedd, ond ar yr un pryd yn methu a deall paham yr ymddanghosai i'w llygaid yn lliwgoch. Yr oeddynt yn dymuno ei ddal yn fyw, ac ymaith yr aeth un o honynt i ffarmdy gerllaw i ofyn am sach, yr hon a gafwyd, er mwyn rhoi y creadur ynddi. Yr oedd yno ddau dwll o tan wraidd y pren, a thra daliai un y sach yn agored ar un twll yr oedd y llall yn hwthio ffon i'r twll arall, ac yn y man aeth y creadur i'r sach. Yr oedd y ddau ddyn y meddwl eu bod wedi dal dwfrgi, yr hyn a ystyrient yn orchest nid bychan. Cychwynasant gartref yn llawen ond cyn eu myned hyd lled cae, llefarodd lletywr y sach mewn ton drist gan ddywedyd - 'Y mae fy mam yn galw am danaf, O, mae fy mam yn galw am danaf,' yr hyn a roddodd fraw mawr i'r ddau heliwr, ac yn y man taflasant y sach i lawr, a mawr oedd eu rhyfeddod a'u dychryn pan welsant ddyn bach mewn gwisg goch yn rhedeg o'r sach tuagat yr afon. Fe a ddiflannodd o'i golwg yn mysg y drysni ar fin yr afon. Yr oedd y ddau wedi eu brawychu yn ddirfawr ac yn teimlo mae doethach oedd myned gartref yn hytrach nag ymyrraeth yn mhellach a'r Tylwyth Teg.


t. 140
Yr oedd perchen y bwthyn wedi amaethu rhyw ran fychan o'r mynydd ger llaw y ty er mwyn plannu pytatws ynddo. Felly y gwnaeth. Mewn coeden yn agos i'r fan canfyddodd nyth bran. Fe feddyliodd mae doeth fuasai iddo ddryllio y nyth cyn amlhau o'r brain. Fe a esgynnodd y goeden ac a ddrylliodd y nyth, ac wedi disgyn i lawr canfyddodd gylch glas oddiamgylch y pren, ac ar y cylch fe welodd hanner coron er ei fawr lawenydd. Wrth fyned heibio yr un fan y boreu canlynol fe gafodd hanner coron yn yr un man ag y cafodd y dydd o'r blaen. Hynna fu am amryw ddyddiau. Un diwrnod dywedodd wrth gyfaill am ei hap dda a ddangosodd y fan a'r lle y cawsai yr hanner coron bob boreu. Wel y boreu canlynol nid oedd yno na hanner coron na dim arall iddo, oherwydd yr oedd wedi torri rheolau y Tylwythion trwy wneud eu haelioni yn hysbys. Y mae y Tylwythion o'r farn na ddylai y llaw aswy wybod yr hyn a wna y llaw ddehau.


t. 176
Yn un o'r canrifoedd a aethant heibio, preswyliai amaethwr yn nhyddyn Pantannas, a'r amser hwnnw yr oedd bendith y mamau yn ymwelwyr aml ag amryw gaeau perthynol iddo ef, a theimlai yntau gryn gasineb yn ei fynwes at yr 'atras fwstrog, leisiog, a chynllwynig,' fel y galwai hwynt, a mynych yr hiraethai am allau dyfo o hyd i ryw lwybr er cael eu gwared oddiyno. O'r diwedd hysbyswyd ef gan hen reibwraig, fod y ffordd godro un hwyr a oreu iddi hi, yr hysbysai y ffordd iddo gyrraedd yr hyn a fawr ddymunai. Boddlonodd i'w thelerau a derbyniodd yntau y cyfarwyddyd, yr hyn ydoedd fel y canlyn:- Ei fod i aredig yr holl gaeau i ba rai yr oedd eu hoff ymgyrchfan, ac ond iddynt hwy unwaith golli y ton glas, y digient, ac na ddeuent byth mwy i'w boeni drwy eu hymwelidau a'r lle.

Dilynodd yr amaethwr ei chyfarwyddyd i'r llythyren, a choronwyd ei waith a llwyddiant. Nid oedd yr un o honynt i'w weled oddeutu y caeau yn awr; ac yn lle sain eu caniadau soniarus, a glywid bob amser yn dyrchu o Waen y Rhos, nid oedd dim ond y distawrwydd trylwyraf yn teyrnasu o gylch eu hen a'u hoff ymgyrchfan.

Hauodd yr amaethwr wenith, &c., yn y caeau, ac yr oedd y gwanwyn gwyrddlas wedi gwthio y gauaf oddiar ei sedd, ac ymddangosai y maesydd yn ardderchog yn eu llifrai gwryddleision a gwanwynol.

Ond un prydnawn, ar ol i'r haul ymgilio i yst felloedd y gorllewin, tra yr oedd amaethwr Pantannas yn dychwelyd tua ei gartref, cyfarfyddwyd ag ef gan fod bychan ar ffurf dyn, yn gwisgo hugan goch; a phan ddaeth gyferbyn ag ef dadweiniodd ei gledd bychan, gan gyfeirio ei flaen at yr amaethwr, a dywedyd,

Dial a ddaw,
Y mae gerllaw.

Ceisiodd yr amaethwr chwerthin, ond yr oedd rhywbeth yn edrychiad sarrug a llym y gwr bychan ag a barodd iddo deimlo yn hynod o annymunol.

Ychydig o nosweithiau yn ddiweddarach, pan oedd y teulu ar ymneillduo i'w gorphwysleoedd, dychrynwyd hwy yn fawr iawn gan drwst, fel pe byddai y ty yn syrthio i lawr bendramwnwgl, ac yn union ar ol i'r twrf beidio, clywent y geiriau bygythiol a ganlyn - a dim yn rhagor - yn cael eu parablu yn uchel,

Daw dial.

Pan oedd yr yd wedi cael ei fedi ac yn barod i gael ei gywain i'r ysgubor, yn sydyn ryw noswaith llosgwyd ef fel nad oedd yr un dywysen na gwelltyn i'w gael yn un man o'r caeau, ac nis gallasai neb fod wedi gosod yr yd ar dan ond Bendith y Mamau.

Fel ag y mae yn naturiol i ni feddwl teimlodd yr amaethwr yn fawr oherwydd y tro, ac edifarhaodd yn ei galon ddarfod iddo erioed wrando a gwneuthur yn ol cyfarwyddyd yr hen reibwraig, ac felly ddwyn arno ddigofaint a chasineb Bendith y Mamau.

Drannoeth i'r noswaith y llosgwyd yr yd fel yr oedd yn arolygu y difrod achoswyd gan y tan, wele'r gwr bychan ag ydoedd wedi ei gyfarfod ychydig o ddiwrnodau yn flaenorol yn ei gyfarfod eilwaith a chyda threm herfeiddiol pwyntiodd ei gleddyf ato gan ddywedyd,

Nid yw ond dechreu.

Trodd gwyneb yr amaethwr cyn wynned a'r marmor, a safodd gan alw y gwr bychan yn ol, ond bu y còr yn cynod o wydn ac anewyllysgar i droi ato, ond ar ol hir erfyn arno trodd yn ei ol gan ofyn yn sarrug beth yr oedd yr amaethwr yn ei geisio, yr hwn a hysbysodd iddo ei fod yn berffaith foddlon i adael y caeau lle yr oedd eu hoff ymgyrchfan i dyfu yn don eilwaith, a rhoddi caniatad iddynt i ddyfod iddynt pryd y dewisent, ond yn unig iddynt beidio dial eu llid yn mhellach arno ef.

'Na,' oedd yr atebiad penderfynol, 'y mae gair y brenin wedi ei roi y bydd iddo ymddial arnat hyd eithaf ei allu ac nid oes dim un gallu ar wyneb y greadigaeth a bair iddo gael ei dynnu yn ol.'

Dechreuodd yr amaethwr wylo ar hyn, ond yn mhen ychydig hysbysodd y gwr bychan y byddai iddo ef siarad a'i bennaeth ar y mater, ac y cawsai efe wybod y canlyniad ond iddo ddyfod i'w gyfarfod ef yn y fan honno amser machludiad haul drennydd.

Addawodd yr amaethwr ddyfod i'w gyfarfod, a phan ddaeth yr amser apwyntiedig o amgylch iddo i gyfarfod a'r bychan cafodd ef yno yn ei aros, ac hysbysodd iddo fod y pennaeth wedi ystyried ei gais yn ddifrifol, ond gan fod ei air bob amser yn anghyfnewidiol y buasai y dialedd bygythiedig yn rhwym o gymeryd lle ar y teulu, ond ar gyfrif ei edifeirwch ef na chawsai ddigwydd yn ei amser ef nac eiddo ei blant.

Llonyddodd hynny gryn lawer ar feddwl terfysglyd yr amaethwr, a dechreuodd Bendith y Mamu dalu eu hymweliadau a'r lle eilwaith a mynych y clywid sain eu cerddoriaeth felusber yn codi o'r caeau amgylchynol yn ystod y nos.

* * * * *

Pasiodd canrif heibio heb i'r dialedd bygythiedig gael ei gyflawni, ac er fod teulu Pantannas yn cael eu hadgofio yn awr ac eilwaith, y buasai yn sicr o ddigwydd hwyr neu hwyrach, eto wrth hir glywed y waedd,

Daw dial,

ymgynefinasant a hi nes eu bod yn barod i gredu na fuasai dim yn dyfod o'r bygythiad byth.

Yr oedd etifedd Pantannas yn caru a merch i dirfeddiannydd cymydogaethol a breswyliai mewn tyddyn o'r enw Pen Craig Daf. Yr oedd priodas y par dedwydd i gymeryd lle yn mhen ychydig wythnosau ac ymddangosai rhieni y cwpl ieuanc yn hynod o foddlon i'r ymuniad teuluol ag oedd ar gymeryd lle.

Yr oedd yn amser y Nadolig - a thalodd y ddarpar wraig ieuanc ymweliad a theulu ei darpar wr, ac yr oedd yno wledd o wydd rostiedig yn baratoedig gogyfer a'r achlysur.

Eisteddai y cwmni oddeutu y tan i adrodd rhyw chwedlau difyrrus er mwyn pasio yr amser, pryd y cawsant eu dychrynu yn fawr gan lais treiddgar yn dyrchafu megis o wely yr afon yn gwaeddi

Daeth amser ymdïal.

Aethant oll allan i wrando a glywent y lleferydd eilwaith, ond nid oedd dim i'w glywed ond brochus drwst y dwfr wrth raiadru dros goglwyni aruthrol y cerwyni. Ond ni chawsant aros i wrando yn hir iawn cyn iddynt glywed yr un lleferydd eilwaith yn dyrchafu i fyny yn uwch na swn y dwfr pan yn bwrlymu dros ysgwyddau y graig, ac yn gwaeddi,

Daeth yr amser.

Nis gallent ddyfalu beth yr oedd yn ei arwyddo, a chymaint ydoedd eu braw a'u syndod fel nad allent lefaru yr un gair a'u gilydd. Yn mhen ennyd dychwelasant i'r ty a chyn iddynt eistedd credent yn ddios fod yr adeilad yn cael ei ysgwyd idd ei sylfeini gan ryw dwrf yn tu allan. Pan yr oedd yr oll wedi cael eu parlysio gan fraw, wele fenyw fechan yn gwneuthur ei hymddangosiad ar y bwrdd o'u blaen, yr hwn oedd yn sefyll yn agos i'r ffenestr.

'Beth yr wyt yn ei geisio yma, y peth bychan hagr?' holai un o'r gwyddfodolion.

'Nid oes gennyf unrhyw neges a thi, y gwr hir dafod,' oedd atebiad y fenyw fechan. 'Ond yr wyf wedi cael fy anfon yma i adrodd rhyw bethau ag sydd ar ddigwydd i'r teulu hwn, a theulu arall o'r gymydogaeth ag a ddichon fod o ddyddordeb iddynt, ond gan i mi dderbyn y fath sarhad oddiar law y gwr du ag sydd yn eistedd yn y cornel, ni fydd i mi godi y llen ag oedd yn cuddio y dyfodol allan o'u golwg.'

'Atolwg os oes yn dy feddiant ryw wybodaeth parth dyfodol rhai o honom ag a fyddai yn ddyddorol i ni gael ei glywed, dwg hi allan,' ebai un arall o'r gwyddfodolion.

'Na wnaf, ond yn unig hysbysu, fod calon gwyryf fel llong ar y traeth yn methu cyrraedd y porthlad oherwydd diaglondid y pilot.'

A chyda ei bod yn llefaru y gair diweddaf diflannodd o'u gwydd, na wyddai neb i ba le na pha fodd!

Drwy ystod ei hymweliad hi, peidiodd y waedd a godasai o'r afon, ond fuan ar ol iddi ddiflannu, dechreuodd eilwaith a chyhoeddi

Daeth amser dial,

ac ni pheidiodd am hir amser. Yr oedd y cynulliad wedi cael eu meddiannu a gormod o fraw i fedru llefaru yr un gair, ac yr oedd llen o bruddder yn daenedig dros wyneb pob un o honynt. Daeth amser iddynt i ymwahanu, ac aeth Rhydderch y mab i hebrwng Gwerfyl ei gariadferch tua Phen Craig Daf, o ba siwrnai ni ddychwelodd byth.

Cyn ymadael a'i fun dywedir iddynt dyngu bythol ffyddlondeb i'w gilydd, pe heb weled y naill y llall byth ond hynny, ac nad oedd dim a allai beri iddynt anghofio eu gilydd.

Mae yn debygol i'r llanc Rhydderch pan yn dychwelyd gartref gael ei hun oddifewn i un o gylchoedd Bendith y Mamau, ac yna iddynt ei hud-ddenu i mewn i un o'u hogofau yn Nharren y Cigfrain, ac yno y bu.

* * * * *

Y mae yn llawn bryd i ni droi ein gwynebau yn ol tua Phantannas a Phen Craig Daf. Yr oedd rhieni y bachgen anffodus yn mron gwallgofi. Nid oedd ganddynt yr un drychfeddwl i ba le i fyned i chwilio am dano, ac er chwilio yn mhob man a phob lle methwyd yn glir a dyfod o hyd iddo, na chael gair o'i hanes.

Ychydig i fyny yn y cwm mewn ogof danddaearol trigfannai hen feudwy oedrannus, yr hwn hefyd a ystyrrid yn ddewin, o'r enw Gweirydd. Aethant yn mhen ychydig wythnosau i ofyn iddo ef, a fedrai roddi iddynt ryw wybodaeth parthed i'w mab colledig - on i ychydig bwrpas. Ni wnaeth yr hyn a adroddodd hwnnw wrthynt ond dyfnhau y clwyf a rhoi golwg fwy anobeithiol fyth ar yr amgylchiad. Ar ol iddynt ei hysbysu ynghylch ymddangosiad y fenyw fechan ynghyd a'r llais wylofus a glywsent yn dyrchafu o'r afon y nos yr aeth ar goll, hysbysodd efe iddynt mai y farn fygythiedig ar y teulu gan Fendith y Mamau oedd wedi goddiweddid y llanc, ac nad oedd o un diben iddynt feddwl cael ei weled byth mwyach! Ond feallai y gwnelai ei ymddangosiad yn mhen oesau, ond ddim yn eu hamser hwy.

Pasiai yr amser heibio, a chwyddodd yr wythnosau i fisoedd, a'r misoedd i flynyddoedd, a chasglwyd tad a mam Rhydderch at eu tadau. yr oedd y lle o hyd yn parhau yr un, ond y preswylwyr yn newid yn barhaus, ac yr oedd yr adgofion am ei golledigaeth yn darfod yn gyflym, ond er hynny yr oedd un yn disgwyl ei ddychweliad yn ol yn barhaus, ac yn gobeithio megis yn erbyn gobaith am gael ei weled eilwaith. Bob boreu gyda bod dorau y wawr yn ymagor dros gaerog fynyddoedd y dwyrain gwelid hi bob tywydd yn rhedeg i ben bryn bychan, a chyda llygaid yn orlawn o ddagrau hiraethlon syllai i bob cyfeiriad i edrych a ganfyddai ryw argoel fod ei hanwylyd yn dychwelyd; ond i ddim pwrpas. Canol dydd gwelid hi eilwaith yn yr un man, a phan ymgollai yr haul fel pelen eiriasgoch o dân dros y terfyngylch, yr oedd hi yno.

Edrychai nes yn agos bod yn ddall, ac wylai ei henaid allan o ddydd i ddydd ar ol anwylddyn ei chalon. O'r diwedd aeth y rhai sydd yn edrych drwy y ffenestri i omedd eu gwasanaeth iddi, ac yr oedd y pren almon yn coroni ei phen a'i flagur gwyryfol, ond parhai hi i edrych, ond nid oedd neb yn dod. Yn llawn o ddyddiau ac yn aeddfed i'r bedd rhoddwyd terfyn ar ei holl obeithion a'i disgwyliadau gan angeu, a chludwyd ei gweddillion marwol i fynwent hen Gapel y Fan.

Pasiai blynyddoedd heibio fel mwg, ac oesau fel cysgodion y boreu, ac nid oedd neb yn fyw ag oedd yn cofio Rhydderch, ond adroddid ei golliad disymwyth yn aml. Dylasem fynegu na welwyd yr un o Fendith y Mamau oddeutu y gymydogaeth wedi ei golliad, a pheidiodd sain eu cerddoriaeth o'r nos honno allan.

Yr oedd Rhydderch wedi cael ei hud-ddenu i fyned gyda Bendith y Mamau - ac aethant ag ef i ffwrdd i'w hogof. Ar ol iddo aros yno dros ychydig o ddiwrnodau fel y tybiai, gofynnodd am ganiatad i ddychwelyd, yr hyn a rwydd ganiatawyd iddo gan y brenin. Daeth allan o'r ogof, ac yr oedd yn ganol dydd braf, a'r haul yn llewyrchu oddiar fynwes ffurfafen ddigwmwl. Cerddodd yn mlaen o Darren y Cigfrain hyd nes iddo ddyfod i olwg Capel y Fan, ond gymaint oedd ei syndod pan y gwelodd nad oedd yr un capel yno! Pa le yr oedd wedi bod, a pha faint o amser? Gyda theimladau cymysgedig cyfeiriodd ei gamrau tua Phen Craig Daf, cartref-le ei anwylyd, ond nid oedd hi yno, ac nid oedd yn adwaen yr un dyn ag oedd yno chwaith. Ni fedrai gael gair o hanes ei gariad a chymerodd y rhai a breswylient yno mai gwallgofddyn ydoedd.

Prysurodd eilwaith tua Phantannas, ac yr oedd ei syndod yn fwy fyth yno! Nid oedd yn adwaen yr un o honynt, ac ni wyddent hwythau ddim am dano yntau. O'r diwedd daeth gwr y ty i fewn, ac yr oedd hwnnw y cofio clywed ei dad cu yn adrodd am lanc ag oedd wedi myned yn ddisymwyth i goll er ys peth cannoedd o flynyddoedd yn ol, ond na wyddai neb i ba le. Rywfodd neu gilydd tarawodd gwr y tŷ ei ffon yn erbyn Rhydderch, pa un a ddiflannodd, mewn cawod o lwch, ac ni chlywyd air o son beth ddaeth o hono mwyach.


t. 210
Mi'r oedd gwr a gwraig yn byw yn y Garth Dorwen ryw gyfnod maith yn ol, ag aethant i Gaer'narfon i gyflogi morwyn ar ddydd ffair G'langaeaf, ag yr oedd yn arferiad gan feibion a merched y pryd hynny i'r rhai oedd yn sefyll allan am lefydd aros yn top y maes presennol wrth boncan las oedd yn y fan y lle saif y Post-office presennol; aeth yr hen wr a'r hen wraig at y fan yma a gwelent eneth lan a gwallt melyn yn sefyll 'chydig o'r neilldu i bawb arall; aeth yr hen wraig ati a gofynnodd i'r eneth oedd arni eisiau lle. Atebodd fod, ag felly cyflogwyd yr eneth yn ddioed a daeth i'w lle i'r amser penodedig. Mi fyddai yn arferiad yr adeg hynny o nyddu ar ol swper yn hirnos y gauaf, ag fe fyddai y forwyn yn myn'd i'r weirglodd i nyddu wrth oleu y lloer; ag fe fyddai tylwyth teg yn dwad ati hi i'r weirglodd i ganu a dawnsio. A ryw bryd yn y gwanwyn pan esdynnodd y dydd diangodd Eilian gyd a'r tylwythion teg i ffwrdd, ag ni welwyd 'mo'ni mwyach. Mae y cae y gwelwyd hi ddiwethaf yn cael ei alw hyd y dydd heddyw yn Gae Eilian a'r weirglodd yn Weirglodd y Forwyn. Mi'r oedd hen wraig y Garth Dorwen yn arfer rhoi gwragedd yn eu gwlâu, a byddai pawb yn cyrchu am dani o bob cyfeiriad; a rhyw bryd dyma wr boneddig ar ei geffyl at y drws ar noswaith loergan lleuad, a hithau yn glawio 'chydig ag yn niwl braidd, i 'nol yr hen wreigan at ei wraig; ag felly aeth yn sgil y gwr dïarth ar gefn y march i Ros y Cowrt. Ar ganol y Rhos pryd hynny 'r oedd poncan lled uchel yn debyg i hen amddiffynfa a llawer o gerrig mawrion ar ei phen a charnedd fawr o gerrig yn yr ochor ogleddol iddi, ag mae hi i'w gwel'd hyd y dydd heddyw dan yr enw Bryn y Pibion. Pan gyrhaeddasan' y lle aethan' i ogo' fawr ag aethan' i 'stafell lle'r oedd y wraig yn ei gwely, a'r lle crandia' a welodd yr hen wraig yrioed. Ag fe roth y wraig yn ei gwely ag aeth at y tan i drin y babi; ag ar ol iddi orphen dyna y gwr yn dod a photel i'r hen wraig i hiro llygaid y babi ag erfyn arni beidio a'i gyffwr' a'i llygaid ei hun. Ond ryw fodd ar ol rhoi y botel heibio fe ddaeth cosfa ar lygaid yr hen wraig a rhwbiodd ei llygaid â'r un bys ag oedd wedi bod yn rhwbio llygaid y babn a gwelodd hefo 'r llygad hwnnw y wraig yn gorfedd ar docyn o frwyn a rhedyn crinion mewn ogo' fawr o gerrig mawr o bob tu iddi a 'chydig bach o dan mewn rhiw gornel, a gwelodd mai Eilian oedd hi, ei hen forwyn, ag hefo'r llygad arall yn gwel'd y lle crandia' a welodd yrioed. Ag yn mhen ychydig ar ol hynny aeth i'r rachnad i Gaer'narfon a gwelodd y gwr a gofynnodd iddo -'Pa sud mae Eilian?' 'O y mae hi yn bur dda,' meddai wrth yr hen wraig: 'a pha lygad yr ydych yn fy ngwel'd?' 'Hefo hwn,' meddai hithau. Cymerodd babwyren ag a'i tynodd allan ar unwaith.


t. 235
Amgylchynir y Marchlyn Mawr gan geigiau erchyll yr olwg arnynt; a dywed traddodiad ddarfod i un o feibion y Rhiwen unwaith tra yn cynorthwyo dafad oedd wedi syrthio i'r creigiau i ddod oddiyno, ddarganfod ogof anferth: aeth i fewn iddi a gwelodd ei bod yn llawn o drysorau ac arfau gwerthfawr; ond gan ei bod yn dechreu tywyllu, a dringo i fynu yn orchwyl anhawdd hyd yn nod yn ngoleu'r dydd, aeth adref y noswaith honno, a boreu drannoeth ar lasiad y dydd cychwynnodd eilwaith i'r ogof, ac heb lawer o drafferth daeth o hyd iddi: aeth i fewn, a dechreuodd edrych o'i amgylch ar y trysorau oedd yno:- Ar ganol yr ogof yr oedd bwrdd enfawr o aur pur, ac ar y bwrdd goron o aur a pherlau: deallodd yn y fan mai coron a thrysorau Arthur oeddynt - nesaodd at y bwrdd, a phan oedd yn estyn ei law i gymeryd gafael yn y goron dychrynwyd ef gan drwst erchyll, trwst megys mil o daranau yn ymrywgo uwch ei ben ac aeth yr holl le can dywylled a'r afagddu. Ceisiodd ymbalfalu oddiyno gynted ag y gallai; pan lwyddodd i gyrraedd i ganol y creigiau taflodd ei lowg ar y llyn, yr hwn oedd wedi ei gynhyrfu drwyddo a'i donnau brigwynion yn cael eu lluchio trwy ddanedd ysgythrog y creigiau hyd y man yr oedd efe yn sefyll arno; ond tra yr oedd yn parhau i syllu ar ganol y llyn gwelai gwrwgl a thair o'r benywod prydferthaf y disgynodd llygad unrhyw ddyn arnynt erioed ynddo yn cael ei rwyfo yn brysur tuag at enau yr ogof. Ond och! yr oedd golwg ofnadwy yr hwn oedd yn rhwyfo yn ddigon i beri iasau o fraw trwy y dyn cryfaf. Gallodd y llanc rywfodd ddianc adref ond ni fu iechyd yn ei gyfansoddiad ar ol hynny, a byddai hyd yn nod crybwyll enw y Marchlyn yn ei glywedigaeth yn ddigon i'w yrru yn wallgof.


t. 251
Rhywbeth rhyfedd yw yr hen Gastell yna (gan olygu Craig Ynys Geinon): yr wyf yn cofio yr amser pan y byddai yn ddychryn gan bobl fyned yn agos ato - yn enwedig y nos: yr oedd yn dra pheryglus rhag i ddyn gael ei gymeryd at Bendith eu Mamau. Fe ddywedir fod wmredd o'r rheiny yna, er na wn i pa le y maent yn cadw. 'R oedd yr hen bobl yn arferol o ddweyd fod pwll yn rhywle bron canol y Castell, tua llathen o led, ac yn bump neu chwech llath o ddyfnder, a charreg tua thair tynnell o bwysau ar ei wyneb e', a bod ffordd dan y ddaear ganddynt o'r pwll hynny bob cam i ogof Tan yr Ogof, bron blaen y Cwm (yn agos i balas Adelina Patti, sef Castell Craig y Nos), mai yno y maent yn treulio eu hamser yn y dydd, ac yn dyfod lawr yma i chwareu eu pranciau yn y nos.

Mae ganddynt, medde nhw, ysgol aur, o un neu ddwy ar hugain o ffyn; ar hyd honno y maent yn tramwy i fyny ac i lawr. Mae ganddynt air bach, a dim ond i'r blaenaf ar yr ysgol ddywedyd y gair hynny, mae y garreg yn codi o honi ei hunan; a gair arall, ond i'r olaf wrth fyned i lawr ei ddywedyd, mae yn cauad ar eu hol.

Dywedir i was un o'r ffermydd cyfagos wrth chwilio am wningod yn y graig, ddygwydd dyweyd y gair pan ar bwys y garreg, iddi agor, ac iddo yntau fyned i lawr yr ysgol, ond am na wyddai y gair i gauad ar ei ol, fe adnabu y Tylwyth wrth y draught yn diffodd y canwyllau fod rhywbeth o le, daethant am ei draws, cymerasant ef atynt, a bu gyda hwynt yn byw ac yn bod am saith mlynedd; ymhen y saith mlynedd fe ddiangodd a llon'd ei het o guineas ganddo.

Yr oedd efe erbyn hyn wedi dysgu y ddau air, ac yn gwybod llawer am eu cwtches nhw. Fe ddywedodd hwn y cwbl wrth ffarmwr o'r gymdogaeth, fe aeth hwnnw drachefn i lawr, ac yr oedd rhai yn dyweyd iddo ddyfod a thri llon'd cawnen halen o guineas, hanner guineas, a darnau saith-a-chwech, oddiyno yr un diwrnod. Ond fe aeth yn rhy drachwantus, ac fel llawer un trachwantus o'i flaen, bu ei bechod yn angeu iddo.

Canys fe aeth i lawr y bedwaredd waith yngwyll y nos, ond fe ddaeth y Tylwyth am ei ben, ac ni welwyd byth o hono. Dywedir fod ei bedwar cwarter e' yn hongian mewn ystafell o dan y Castell, ond pwy fu yno i'w gwel'd nhw, wn i ddim.

Mae yn wir ei wala i'r ffarmwr crybwylledig fyned ar goll, ac na chlybuwyd byth am dano, ac mor wir a hynny i'w dylwyth ddyfod yn abl iawn, bron ar unwaith yr amser hynny. A chi wyddoch gystal a finnau, eu bod nhw yn dywedyd fod ffyrdd tanddaearol ganddynt i ogofau Ystrad Fellte, yn agos i Benderyn. A dyna y Garn Goch ar y Drum (Onllwyn yn awr) maent yn dweyd fod cannoedd o dynelli o aur yn stôr ganddynt yno; a chi glywsoch am y stori am un o'r Gethings yn myned yno i gloddio yn y Garn, ac iddo gael ei drawsffurfio gan y Tylwyth i olwyn o dân, ac iddo fethu cael llonydd ganddynt, hyd nes iddo eu danfon i wneyd rhaff o sand!

Fe fu gynt hen fenyw yn byw mewn ty bychan gerllaw i Ynys Geinon, ac yr oedd hi yn gallu rheibo, medde nhw, ac yr oedd sôn ei bod yn treulio saith diwrnod, saith awr, a saith mynyd gyda y Tylwyth Teg bob blwyddyn yn Ogof y Castell. Yr oedd y gred yn lled gyffredinol ei bod hi yn cael hyn a hyn o aur am bob plentyn a allai hi ladrata iddynt hwy, a dodi un o'i hen grithod hwy yn ei le: 'doedd hwnnw byth yn cynyddu. Y ffordd y byddai hi yn gwneyd oedd myned i'r tŷ dan yr esgus o ofyn cardod, a hen glogyn llwyd-ddu mawr ar ei chefn, ac o dan hwn, un o blant Bendith y Mamau; a bob amser os byddai plentyn bach gwraig y tŷ yn y cawell, hi gymerai y swydd o sigol y cawell, a dim ond i'r fam droi ei chefn am fynyd neu ddwy, hi daflai y lledrith i'r cawell, ai ymaith a'r plentyn yn gyntaf byth y gallai hi. Fe fu plentyn gan ddyn o'r gym'dogaeth yn lingran am flynyddau heb gynyddu dim, a barn pawb oedd mai wedi cael ei newid gan yr hen wraig yr oedd; fe aeth tad y plentyn i fygwth y gwr hysbys arni: fe ddaeth yr hen wraig yno am saith niwrnod i esgus baddo y bachgen bach mewn dwfr oer, a'r seithfed bore cyn ei bod yn oleu, hi a gas genad i fyned ag ef dan rhyw bistyll, medde hi, ond meddai'r cym'dogion, myned ag ef i newid a wnaeth. Ond, beth bynag, fe wellodd y plentyn fel cyw yr wydd o hynny i maes. Ond gorfu i fam e' wneyd cystal a llw wrth yr hen wraig, y gwnai ei dwco mewn dwfr oer bob bore dros gwarter blwyddyn, ac yn mhen y chwarter hynny 'doedd dim brafach plentyn yn y Cwm.


Y Plentyn Colledig

t. 257
Mewn amaethdy ag sydd yn aros yn y plwyf a elwir y Berth Gron, trigiannai gweddw ieuanc a'i phlentyn bychan. Yr oedd wedi colli ei gwr, a'i hunig gysur yn ei hamddifadrwydd a'i hunigrwydd oedd Gruff, ei mab. Yr oedd ef yr amser hwn oddeutu tair blwydd oed, ac yn blentyn braf ar ei oedran. Yr oedd y plwyf, ar y pryd, yn orlawn o 'Fendith y Mamau'; ac, ar amser llawn lloer, byddent yn cadw dynion yn effro a'u cerddoriaeth hyd doriad gwawr. Rhai hynod ar gyfrif eu hagrwch oedd 'Bendith' Llanfabon, ac yr un mor hynod ar gyfrif eu castiau. Lladrata plant o'r cawellau yn absenoldeb eu mamau, a denu dynion trwy eu swyno a cherddoriaeth i ryw gors afiach a diffaith, a ymddangosai yn gryn ddifyrrwch iddynt. Nid rhyfedd fod y mamau beunydd ar eu gwyliadwriaeth rhag ofn colli eu plant. Yr oedd y weddw o dan sylw yn hynod ofalus am ei mab; gymaint nes tynnu rhai o'r cymydogion i ddywedyd wrthi ei bod yn rhy orofalus, ac y byddai i ryw anlwc orddiwes ei mab. Ond ni thalai unrhyw sylw i'w dywediadau. Ymddangosai fod ei holl hyfrydwch a'i chysur ynghyd a'i gobeithion yn cydgyfarfod yn ei mab. Modd bynnag, un diwrnod, clywodd ryw lais cwynfannus yn codi o gymydogaeth y beudy; a rhag bod rhywbeth wedi digwydd i un o'r gwartheg rhedodd yn orwyllt tuag yno, gan adael y drws heb ei gau, a'i mab bychan yn y ty. Ond pwy a fedr ddesgrifio ei gofid ar ei gwaith yn dyfod i'r ty wrth weled eisiau ei mab? Chwiliodd bob man am dano, ond yn aflwyddiannus. Oddeutu machlud haul, wele lencyn bychan yn gwneuthur ei ymddangosiad o'i blaen, ac yn dywedyd, yn groyw, 'Mam!' Edyrchodd y fam yn fanwl arno, a dywedodd o'r diwedd, 'Nid fy mhlentyn i wyt ti!' 'Ië, yn sicr,' atebai y bychan.

Nid ymddangosai y fam yn foddlon, na'i bod yn credu mai ei phlentyn hi ydoedd. Yr oedd rhywbeth yn sisial yn barhaus wrthi mai nid ei mab hi ydoedd. Ond beth bynnag, bu gyda hi am flwyddyn gyfan, ac nid ymddangosai ei fod yn cynyddu dim, tra yr oedd Gruff, ei mab hi, yn blentyn cynyddfawr iawn. Yr oedd y gwr bychan yn myned yn fwy hagr bob dydd hefyd. O'r diwedd penderfynodd fyned at y 'dyn hysbys,' er cael rhyw wybodaeth a goleuni ar y mater. Yr oedd yn digywdd bod ar y pryd yn trigfannu yn Nghastell y Nos, wr ag oedd yn hynod ar gyfrif ei ymwybyddiaeth drwyadl o 'gyfrinion y fall.' Ar ol iddi osod ei hachos ger ei fron, ac yntau ei holi, sylwodd, 'Crimbil ydyw, ac y mae dy blentyn di gyd a'r hen Fendith yn rhywle; ond i ti ddilyn fy nghyfarwyddiadau i yn ffyddlon a manwl, fe adferir dy blentyn i ti yn fuan. Yn awr, oddeutu canol dydd y foru, tor ŵy yn y canol, a thafl un hanner ymaith oddiwrthyt, a chadw y llall yn dy law, a dechreu gymysg ei gynwysiad yn ôl a blaen. Cofia fod y gwr bychan gerllaw yn gwneuthur sylw o'r hyn ag a fyddi yn ei wneuthur. Ond cofia di a pheidio galw ei sylw - rhaid ennill ei sylw at y weithred heb ei alw: ac odid fawr na ofynna i ti beth fyddi yn ei wneuthur. A dywed wrtho mai cymysg pastai'r fedel yr wyt. A rho wybod i mi beth fydd ei ateb.'

Dychwelodd y wraig, a thrannoeth dilynodd gyfarwyddyd y 'dyn cynnil' i'r llythyren. Yr oedd y gwr bychan yn sefyll yn ei hymyl, ac yn sylwi arni yn fanwl. Ym mhen ychydig, gofynnodd, 'Mam, beth 'i ch'i 'neuthur?' 'Cymysg pastai'r fedel, machgen i.' 'O felly. Mi glywais gan fy nhad, fe glywodd hwnnw gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, fod mesen cyn derwen, a derwen mewn dâr; ond ni chlywais i na gweled neb yn un man yn cymysg pastai'r fedel mewn masgal ŵy iar.' Sylwodd y wraig ei fod yn edrych yn hynod o sarug arni pan yn siarad, ac yr oedd hynny yn ychwanegu at ei hagrwch, nes ei wneuthur yn wrthun i'r pen.

Y prydnawn hwnnw aeth y wraig at y 'dyn cynnil' er ei hysbysu o'r hyn a lefarwyd gan y còr. 'O,' ebai hwnnw, 'un o'r hen frid ydyw!' 'Yn awr, bydd y llawn lloer nesaf ym mhen pedwar diwrnod; mae yn rhaid i ti fyned i ben y pedair heol sydd yn cydgyfarfod wrth ben Rhyd y Gloch; am ddeuddeg o'r gloch y nos y bydd y lleuad yn llawn. Cofia guddio dy hun mewn man ag y cei lawn olwg ar bennau y croesffyrdd, ac os gweli rywbeth a bair i ti gynhyrfu, cofia fod yn llonydd, ac ymatal rhag rhoddi ffrwyn i'th deimladau, neu fe ddistrywir y cynllun, ac ni chei dy fab yn ol byth.'

Nis gwyddai y fam anffodus beth oedd i'w ddeall wrth ystori ryfedd y 'dyn cynnil.' Yr oedd mewn cymaint o dywyllwch ag erioed. O'r diwedd daeth yr amser i ben; ac ar yr awr apwyntiedig yr oedd yn ymguddio yn ofalus tu cefn i lwyn mawr yn ymyl, o ba le y caffai olwg ar bob peth o gylch. Bu am hir amser yno yn gwylio heb ddim i'w glywed na'i weled - dim ond distawrwydd dwfn a phruddglwyfus yr hanner nos yn teyrnasu. O'r diwedd clywai sain cerddoriaeth yn dynesu ati o hirbell. Nês, nês yr oedd y sain felusber yn dyfod o hyd; a gwrandawai hithai gyda dyddordeb arni. Cyn hir yr oedd yn ei hymyl, a deallodd mai gorymdaith o 'Fendith y Mamau' oeddynt yn myned i rywle. Yr oeddynt yn gannoedd mewn rhif. Tua chanol yr orymdaith canfyddodd olygfa ag a drywanodd ei chalon, ac a berodd i'w gwaed sefyll yn ei rhedwelïau. Yn cerdded rhwng pedwar o'r 'Bendith' yr oedd ei phlentyn bychan anwyl ei hun. Bu bron a llwyr anghofio ei hun, a llamu tuag ato er ei gipio ymaith oddiarnynt trwy drais os gallai. Ond pan ar neidio allan o'i ymguddfan i'r diben hwnnw meddyliodd am gynghor y 'dyn cynnil,' sef y byddai i unrhyw gynhyrfiad o'i heiddo ddistrywio y cwbl, ac na byddai iddi gael ei phlentyn yn ol byth.

Ar ol i'r orymdaith ddirwyn i'r pen, ac i sain eu cerddoriaeth ddistewi yn y pellder, daeth allan o'i hymguddfan, gan gyfeirio ei chamrau tua 'i chartref. Os oedd yn hiraethol o'r blaen ar ôl ei mab, yr oedd yn llawer mwy erbyn hyn; a'i hadgasrwydd ar y còr bychan oedd yn hawlio ei fod yn fab iddi wedi cynyddu yn fawr iawn, waith yr oedd yn sicr yn awr yn ei meddwl mai un o'r hen frid ydoedd. Nis gwyddai pa fodd i'w oddef am fynud yn hwy yn yr un ty a hi, chwaithach goddef iddo alw 'mam' arni hi. Ond beth bynnag, cafodd ddigon o ras ataliol i ymddwyn yn weddaidd at y gwr bychan hagr oedd gyda hi yn y tŷ. Drannoeth aeth ar ei hunion at y 'dyn cynnil' i adrodd yr hyn yr oedd wedi bod yn llygad dyst o hono y noson gynt, ac i ofyn am gyfarwyddyd pellach. Yr oedd y 'gwr cynnil' yn ei disgwyl, ac ar ei gwaith yn dyfod i'r ty adnabyddodd wrthi ei bod wedi gweled rhywbeth oedd wedi ei chyffoir. Adroddodd wrtho yr hyn ag oedd wedi ei ganfod ar ben y croesffyrdd; ac wedi iddo glywed hynny, agorodd lyfr mawr ag oedd ganddo, ac wedi hir syllu arno hysbysodd hi 'fod yn angenrheidiol iddi cyn cael ei phlentyn yn ol gael iâr ddu heb un plufyn gwyn nac o un lliw arall arni, a'i lladd; ac ar ol ei lladd, ei gosod o flaen tan coed, pluf a chwbl, er ei phobi. Mor gynted ag y buasai yn ei gosod o flaen y tân, iddi gau pob twll a mynedfa yn yr adeilad ond un, a pheidio a dal sylw manwl ar ol y 'crimbil,' hyd nes byddai y iâr yn ddigon, a'r pluf i syrthio ymaith oddiarni bob un, ac yna i edrych ym mha le yr oedd ef.

Er mor rhyfedd oedd cyfarwyddyd y 'gwr,' penderfynodd ei gynnyg; a thrannoeth aeth i chwilio ym mhlith y ieir oedd yno am un o'r desgrifiad angenrheidiol; ond er ei siomedigaeth methodd a chael yr un. Aeth o'r naill ffermdy i'r llall i chwilio, ond ymddangosai ffawd fel yn gwgu arni - waith methodd a chael yr un. Pan ym mron digaloni gan ei haflwyddiant daeth ar draws un mewn amaethdy yng nghwr y plwyf, a phrynodd hi yn ddioedi. Ar ol dychwelyd adref, gosododd y tan mewn trefn, a lladdodd yr iâr, gan ei gosod o flaen y tân disglaer a losgai ar yr alch. Pan yn edrych arni yn pobi, anghofiodd y 'crimbil' yn hollol, ac yr oedd wedi syrthio i rywfath o bruddlewyg, pryd y synnwyd hi gan sain cerddoriaeth y tu allan i'r ty, yn debyg i'r hyn a glywodd ychydig nosweithiau cyn hynny ar ben y croesffyrdd. Yr oedd y pluf erbyn hyn wedi syrthio ymaith oddiar y iâr, ac erbyn edrych yr oedd y 'crimbil' wedi diflannu. Edrychai y fam yn wyllt o'i deutu, ac er ei llawenydd clywai lais ei mab colledig yn galw arni y tu allan. Rhedodd i'w gyfarfod, gan ei gofleidio yn wresog; a phan ofynodd ym mha le yr oedd wedi bod cyhyd, nid oedd ganddo gyfrif yn y byd i'w roddi ond mai yn gwrando ar ganu hyfryd yr oedd wedi bod. Yr oedd yn deneu a threuliedig iawn ei wedd pan adferwyd ef. Dyna ystori 'Y Plentyn Colledig.'


t. 378
Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
A Llanfor aiff yn Llyn.


t. 378
Caer Fyrddin, cei oer fore;
Daear a'th lwnc, dw'r i'th le.


t. 392
Tair afon gynt a rifwyd
Ar ddwyfron Pumlumon lwyd
Hafren a Gwy'n hyfryd ei gwedd,
A'r Rheidol fawr ei hanrhydedd.