Contributed by: David Wood
Mae'r curlaw yn dallu ffenestri fy nhy+, A thymestlwynt Tachwedd a gyfyd ei ru; Mae cedyrn y derlwyn yn siglo i'w gwraidd, A brefu am loches wna ychen a phraidd. Ein Tad, cofia'r adar nad oes iddynt gell; Mae'r eira mor agos, a'th haf Di mor bell. Mae'r gorlif yn ddisglair hyd wyneb y fro, A gyr y cymylau fel gwersyll ar ffo; Gan ergyd y ddrycin fy mwthyn a gryn; Well aelwyd na heol ar noson fel hyn! Ein Tad, cofia'r arab a gwsg tan y lloer; Mae'i wisg ef mor denau, a'th wynt Di mor oer. Mae'r ewyn yn wyn ar y mordraeth gerllaw Cyn wynned â dalen y llyfr yn fy llaw; A hed y gylfinir fel cri trwy y nef, Gan ofn y rhyferthwy a'i ddicter ef. Ein Tad, cofia'r morwr rhwng cyfnos a gwawr Mae'i long ef mor fechan, a'th fôr Di mor fawr.