Contributed by: David Wood
Dan y garreg las a'r blodau Cysga berl dy fam; Gwybod mae dy dad a minnau Na dderbynni gam; Gwn nad oes un beddrod bychan Heb ei angel gwyn, Cwsg fy mhlentyn yma'th hunan, Cwsg, Goronwy Wyn. Cofio 'r wy pan oeddit gartre'n Cysgu gyda ni, Rhwystro fynnwn blant y pentre' Rhag dy darfu di: Ond bodlonwn iddynt heno Gyda'u miri iach Pe bai obaith iddynt ddeffro Fy Ngoronwy bach. Cwsg, fy mhlentyn, heb dy fami, Cwsg yn erw Duw; Casglu blodau buom iti, Sul y Blodau yw: Chwe briallen fach y ddywed Mai yr haf yw hi, Cwsg odanynt heb eu gweled Cwsg, fy rhosyn i. Dan y garreg las, Goronwy, Cysga beth yn hwy; Rhaid yw dweud "Nos da", Goronwy, Mynd a'th ado'r wy. Nid oes eisiau llaw i'th siglo Yn dy newydd grud, Cwsg nes gweld ein gilydd eto, Cwsg a gwyn dy fyd.