Contributed by: David Wood
Ar lan Iorddonen ddofn 'R wy'n oedi'n nychlyd, Mewn blys mynd trwy, ac ofn Ei stormydd enbyd; O na bai modd i mi Osgoi ei hymchwydd hi, A hedfan uwch ei lli I'r Ganaan hyfryd! Wrth gofio grym y dw A'i thonnog genlli, A'r mynych rymus w A suddodd ynddi, Mae braw ar f'enaid gwan Mai boddi fydd fy rhan Cyn cyrraedd tawel lan Bro y goleuni. Ond pan y gwelwyf draw Ar fynydd Seion, Yn iach heb boen na braw, Fy hen gyfeillion, Paham yr ofnaf mwy? Y Duw a'u daliodd hwy A'm dyga innau drwy Ei dyfroedd dyfnion.