Contributed by: David Wood
'E ddiflannodd clog y glaw, F'anwylyd wiw, Oedd yn toi'r Eryri draw, F'anwylyd wiw; Mae yr haul ar hyn o dro Yn goreuro bryniau'n bro; I'r hafoty rhoddwn dro, F'anwylyd wiw. Ni gawn wrando'r creigiau crog, F'anwylyd wiw, Yn cydateb ca y gog, F'anwylyd wiw, A diniwed fref yr w, A'r eidionau ar bob twyn, A'r ehediaid llon o'r llwyn, F'anwylyd wiw. Ond ar fyrder beth i mi, F'anwylyd wiw, Fydd Cwmdyli hebot ti, F'anwylyd wiw? Yn iach i wrando d'atsain dlos Wrth dy wylio dros y rhos Y dod i odro fore a nos, F'anwylyd wiw. Ac ynghanol dwndwr tre, F'anwylyd wiw, A diddanion llon y lle, F'anwylyd wiw, Nac anghofio un a fydd Ar dy o yn wylo'n brudd Yng Nghwmdyli nos a dydd, F'anwylyd wiw.