Contributed by: David Wood
Preswylfeib pau'r iselfedd Tan ro sy'n huno mewn hedd, Clodig ych mewn cleidir, A gweis tyn yn y gist hir... Darfu'ch taith a'ch gwaith i gyd 'N o gorwedd yng ngho gweryd; Yn y llwch, dan y llechi, Darfu'ch braint, dyrfa, a'ch bri. Darfu y chwant, ar bant bedd, I ymorol a mawredd. Ust yn eich distaw annedd Gaf heb drais, na chalis, na chledd, Heb gynghrair, heb air o ben, Na da fyfyrdod awen. Ni thremia llais gorthrymwr Nac un braw i'ch distaw dw; Ni oleua haul awyr I'r nos hon, na lloer, na sy. Pe ca'r ddaear gron argryd Erwin, gerth, nes crynu i gyd, A siglo'ch bro fwsoglyd Trwy'i sail, fel gwanddail i gyd, Ynoch chwi ni 'nynnai chwant, Rwymrai, i agor amrant. Nid cynnwrf rhuad ceunant, Dylif certh, na dolef cant, Nid alarwm trwm, tramaith, Rhuad didor y mo maith, Twrw neu froch taranau fry Uwch y dyffryn a'ch deffry... Ow! ond gw wedi gorwedd, Ni chyfyd i'r byd o'r bedd; Ni welir neb o waelod Annedd y dyfnfedd yn dod; Nid a gw, wedi gorwedd, I'w dy byth o waelod bedd. Pwy drwy drais, - pa daer ryw dro A ddihangawdd o bridd ango? Pa gadarn, pwy a gododd? pwy o'r ffau, pa w a ffodd? Er gwaedd a dagrau gweddwon, A gawr brudd hyd ysgar bron, Er galar anghymharawl, Briw a chw, i'w dwyn heb dawl, Er wylo'n hidl afonydd O ddagrau yn rhydau rhydd, Er hiraeth, aml aeth a loes, Cwynaw hyd at dranc einioes, Er tywallt dagrau tawel Nes gwneuthur, trwy gur, heb ge, Y llygaid cannaid fel cyrn, A gwisgo cnawd ac esgyrn, Ie, er rhoddi arian, Neu ri' y gwlith o aur gla, - I'w le a'i fan drigiannol Ni ddaw neb o'r bedd yn o. Y dyn pan e ar elawr A'i droi i lwch daear lawr, Iach unwaith, iach ganwaith, gwir, Hwnnw eilwaith byth ni welir. Ni yrr yn o air i neb, Ow, eto ni rydd ateb. Canu'n iach, bellach, am byth I'w deulu wna'r gw dilyth; Gwag mwy fydd bob dydd ei dy, Ei aelwyd ef a'i wely. Mae'n pydru, darfu y daith, O'r amdo ni cheir ymdaith. Och le! mwyach ni chlywir Air, un, o hwn, byr na hir. Ar unwaith hed yr einioes, Adwedd o'r dyfnfedd nid oes. Ail ei dosbarth i darth dwl Ac ymaith a fel cwmwl. Diau pan dde angau loes, Ni ddaw i un ddwy einioes. Dwg dylaith bob iaith o'r byd Trwy ei gorwynt i'r gweryd; Yn wa i'r ddaear ydd aeth Adlais pob rhyw genhedlaeth... Ymerawdwr, llywiwr llon, A garia euraid goron, Ni ddeil ddim, pan dde ei ddydd, Mwy na brwyn ma y bronnydd, E dawdd mal y diddim us Rhwng breichiau'r angau brochus; Ni rydd y bedd i'w urdd barch Mwy na mwydion ma madarch. Fe genfydd y clochydd clau, Tra bydd yn torri beddau, Esgyrn rhai fu'n gedyrn gynt A gwawr sych, oernych, arnynt, A'r cnawd fu'n wisg i'w gwisgaw A godir hwnt gyda rhaw... Y cribddeiliwr, rheibiwr hyll, Yn ei fawrchwant fu erchyll, Yn gorthrymu y truan, Trybaeddu a gwasgu'r gwan, Ac yn ei fa dygn a fu Am y wlad yn ymledu, Mynd tros bawb mewn trais a ba, Rheibio, ewino'n anwar, Ac hefyd gwancio'r cyfan O'r byd, ar ei hyd, i'w ran; Ni wna ddaioni i neb, O'i us ni roddai oseb; Ond dyma ben gyrfa'r gw, Uthr a thramaith orthrymwr; Daeth i lawr, mae'n awr mewn hedd, Dan garreg fud yn gorwedd... A'n wyw y fenyw fwynwych, Oedd ddiflin i drin y drych, A'i phryd a'i glendyd fel gla Rosynnau eres anian. Y pryfed sydd yn profi Ei thegwch a'i harddwch hi... Ei gwallt hi oedd fel gwellt aur, Ail i wiail o loywaur, Rhyw ardd oedd, rhyw iraidd wig, Aur-sidan yn drwsiedig, A drid yn fodrwyau O wiw blethiad, clymiad clau: Ond y bedd a ddodai ben Manwl ar falchder meinwen; Yr awr hon, is cloeon clau, Drewant, yr holl fodrwyau. Pryfed drwyddo a redant Heb ri'n awr, a'i lwybro wna; Gyrrant yn llu mewn gorwib Eu llwybrau crai, lle bu'r crib... Derfydd parch mewn arch, mae'n wir, Yno, ei o ni welir; Ni pharcha'r bedd, annedd ddig, Fwynwych aur fwy na cherrig. Ti'r bedd sydd yn trybaeddu Pob iach gyfeillach a fu, A medraist dorri modrwy Dan gymar, a'u hysgar hwy Fu'n annwyl, o fewn einioes, Yn bur i'w cred heb air croes; Darfu yr hoffter dirfawr 'N y cryd mwll, a'r cariad mawr. Aeth cyfeillion, wiwlon wedd, I minnau i'r lom annedd; Och, ofid! mwy ni chefais Weld eu lliw, clywed eu llais. Rhyfedd y cymysgedd mawr, Och, a geir yn eich gorawr. Gorwedd blith-draphlith heb drefn, Wedd odrist, yn llwyr ddidrefn, Ac edrych yma'n gydradd Mae'r uchel a'r isel radd. Yr ymerawdwr, gw gwych, Oddi ar ei orsedd orwych, O'i uchafiaeth daeth y dyn Hyd at y gwael gardotyn; Mor isel, mor dawel daeth A hwnnw, nid oes gwahaniaeth. Mawr a bach sy 'mro y bedd, Y doeth a'r annoeth unwedd, Y cyfoethog, enwog un, Gw y geiniog, a'r gwannun. O'r achul faban rhychwant Yno i'r cu henwr cant. Ac ail i ei ddeiliaid gwa Yw brenin yn y braenar; Gwa, eiddil, y gorweddant, 'R un ty, 'r un gwely a ga... Caf fod, ryw ddiwrnod a ddaw, Mor ddiystyr, mor ddistaw; Maes 'law, fe braw y corff brau, Chwerwaf ing, awch eirf angau; Cyn hir, fe brofir er braw Ddialedd trwm ei ddwylaw; Fe baid hon, y galon gu, A'i hawch lem, a dychlamu, Clywir y corff claear, cu, A'r enaid yn ymrannu; A llinynnau llon anian Trwy un loes yn torri'n la; Yna daw, mewn distaw do, I'r golau'r holl ddirgelion. O wyll fedd, diddiwedd wyd, Digon iti nis dygwyd; Er Abel fawr ei obaith, W da, aeth gyntaf i'r daith, Myrddiynau, rif dafnau'r don, Gladdwyd yn dy goluddion. Dy enw yw Bwytawr dynion, Wyt wancus, arswydus so; Diddig daeth pawb, rhaid addef, Ers chwe mil i'th grombil gref. Nid yw'th wanc mawr, i'r awr hon Yn tagu i ddweud 'digon'; Dy ddidor lef yw hefyd 'Moes, moes', drwy bob oes o'r byd; Dy enau certh nid yw'n cau - Mae ynot le i minnau...