Contributed by: David Wood
Mae gan y Cymro galon I garu Cymru lom, Mae'i serch fel anniffoddol fflam Yn gylch o amgylch hon. Os yw ymhlith estroniaid Sy'n gwatwar iaith ei wlad, Cynheua fflam ei serch yn fwy At iaith ei fam a'i dad. Mae gan y Cymro galon I ganfod y tylawd, A chynorthwyol fraich i'w ddwyn O bwll annedwydd ffawd. Mae deigryn yn ei lygaid, Elusen yn ei law, Pan wêl gardotes fach dylawd Yn droednoeth yn y glaw. Mae gan y Cymro dalent A synnwyr yn ei ben I wneud paradwys cyn bo hir O'n hannwyl Walia Wen; Ac os dyrchefir gwledydd Gan rinwedd dysg a dawn, Ceir gweld hen Gymru a Chymraeg Yn uchel, uchel iawn.