Contributed by: David Wood
Nid oes gennym hawl ar y sêr, Na'r lleuad hiraethus chwaith, Na'r cwmwl o aur a ymylch Yng nghanol y glesni maith. Nid oes gennym hawl ar ddim byd Ond ar yr hen ddaear wyw; A honno sy'n anhrefn i gyd Yng nghanol gogoniant Duw.