Contributed by: Darren Wyn Rees
GLAN EBBWY. [Ysgrifennodd Islwyn at J. Rosser ar "ddydd Llun y bore," Gorffennaf 17, 1854 fel hyn, - "Yr wyf yn myned i fyny yn awr i Ben y Cae i ddodi marwol weddillion Glan Ebbwy yn y bedd. I ddodi y 'pwrcas i lawr,' -mae wedi ei brynu, 'rwy'n credu. Fe'i rhyddheir 'fore prynedigaoth y corff.' Hapus fore! Fe ryddheir llawer pwrcas y bore hwnnw."] I. Gorffwysa di! 'Rwyf finnau yn flinedig, Ac am yr un orffwysfa yn dyheu. II. Camsyniaist, auaf angau, 'th dymor yma, Haf oedd i ddod at ol fath wanwyn îr. Ond yn y nef yr oedd dy haf di i ddechreu; A byrr fu'r gauaf, aeth heibio ag un ystorm. Mae'n dawel bythoedd draw. Ond O, i ni Mor wyw, ac mor ddiflodau, yw'r olygfa Lle taenai gwyrddni mil o riniau gynt, Sahara lle bu Eden aml ei rhos. III. "Dedwydd fydd tragwyddol orffwys" Oedd dy eiriau yn y glyn; Heddyw, yn y deg baradwys, Teimli y dedwyddyd hyn; Ie, dedwydd gorffwys yno, Mwyn ymnofio mewn mwynhad Dedwydd gorffwys wedi blino, Yn yr hedd-drigfannau rhad. Gwlad uwchlaw ystormydd blinion Yw'th breswylfa dawel mwy; Rhued byd a'i holl awelon, Byth ni chlywi 'u rhuad hwy. Aeth yr awel olaf heibio, Heibio fyth yr olaf donn, Bythol deg yw'r tywydd yno, Balmaidd holl aroglau hon. Nid oes ddeigryn gennyf mwyach, Yfodd bedd fy nagrau prudd; Gwel, ni fedd y llygaid bellach Wlith i ddyfrhau fy ngrudd; Ofer gwlitho'r bedd mewn alaeth Ni thyf blodyn ar ei fron, Sychodd holl ffynhonnau hiraeth Yn y galon unig hon. Frawd! Cymeraf lwybyr newydd; Yn lle wylo, canu wnaf, Canu am y bore dedwydd, Bore y tragwyddol haf Ar y fynwent drom gymylog Wawria o wybrennau gwell, Gan oleuo'r beddau niwlog, A dilennu'r wynfa bell. Ebbwy, 'n iach! Yn iach nes torro Gwawr yr anfachludol ddydd, Cawn gyfarfod heb ymado, O, cyfarfod melus fydd; Fry mwynha, mwynha 'th ogoniant, Mel heb wermod, bri heb wawd Nes cael rhan o'r unrhyw fwyniant, Ebbwy, 'n iach! Yn iach, fy mrawd!