Contributed by: Darren Wyn Rees
Gwel, Uwchlaw Cymylau Amser Gwel, uwchlaw cymylau amser, O fy enaid, gwel y tir; Lle mae'r awel fyth yn dyner, Lle mae'r wybren fyth yn glir; Hapus dyrfa, Sydd yn nofio yn ei hedd. Gwel a chred. Mae yna drigfan, Oes, a chroen deg, i ti; Golud hon ni threulir allan, Gwel a chais ei golud hi; A deilyngwyd Yn yr ardd drwy iawnol chwy+s. Ynddi tardd ffynhonnau bywyd, Trwyddi rhed afonydd hedd I ddyfrhau ei broydd hyfryd, Ac i anfarwoli `i gwedd; Iachawdwriaeth Ar ei glan anadlir mwy. Saethau'r bedd nid allant esgyn I'w hagosaf dalaeth hi; Ac ni faidd y marwol elyn Sangu ar ei rhandir fry; Angau yno? Cartref anfarwoldeb yw. Troir awelon glyn marwolaeth Oll yn hedd tu yma i'r fan, Try holl ocheneidiau hiraeth Yn anthemau ar y lan; Syrth y deigryn Olaf i'r Iorddonen ddu. Nid oes yno neb yn wylo, Yno nid oes neb yn brudd, Troir yn fe+l y wermod yno, Yno rhoi y caeth yn rhydd; Hapus dyrfa Sydd a'u trigfa yno mwy. Iachawdwriaeth ar ei hawel Lif, a nefoedd o fwynhad; Mae ei hanthem fyth yn uchel, A'i thrysorau fyth yn rhad; A'i gogoniant Yn disgleirio fel yr haul. Mae fy nghalon brudd yn llamu O orfoledd dan fy mron,- Yn y gobaith am feddiannu `R etifeddiaeth ddwyfol hon; Hapus dyrfa, Sydd a'u hwyneb tua'r wlad. - William Thomas (Islwyn) [Nodyn gan O.M. Edwards : "Bustl" yw'r gair yn llawysgrif Islwyn sydd ger fy mron. Pryd bynnag y byddai yn adolygu ac yn cywiro ei waith, hyd yr wyf wedi sylwi, newidiai "bustl" yn wermod. Am hynny gweir y cyfnewidiad yma hefyd.]