Contributed by: Darren Wyn Rees
Edrychais tua'r nefoedd fry Y neithwyr tra yn wylo; Ac i ba le'r edrychaf fi, I ble ond tuag yno? Yr wyf yn hoffi edrych fry, Mae yno obaith, oes, i mi. Gyfeilles hoff, a'i tebyg fod Hapusach byd na hwn?? Uwchlaw yr haul a'i uchel rod, Mae byd hapusach, gwn. Gyfeilles hawddgar, awn ynghyd, Dan ganu, tua'r hapus fyd. O pwy, o'i farwol yrfa'n flin, Na fynnai yno fyw! Mae uwch y ser, - ac un O'r ser, feallai yw; Y seren decaf, loewaf fry, Ar honno neithwyr tremiwn i. Fy chwaer! canfyddwn hi Yn deg fel gwe+n ei Duw; "A gaf, O f'enaid," holwn i, "O f' enaid, yno fyw?" O cawn, fy chwaer, ac awn ynghyd, Dan ganu, tua'r hapus fyd. - William Thomas (Islwyn) Mai 26, 1854