Contributed by: Darren Wyn Rees
Anghofied Araul For Anghofied araul for barddoniaeth mwy Aberu f'enaid, a'i thragwyddol donn Arwynnu oerion greigiau siomiant sydd Yn anialeiddio traeth bodolaeth byth; Anghofied olwyn ganol bywyd droi Pan ddelo'r nefol lif i lawr, o rhwng Breuddwydwawr fanciau adgof, fyth y sydd Yn barod i ddiflannu pan y gwna Yr enaid mawr ond edrych tuag yno; Ymlaesed dyfnaf linyn teimlad, fel Rhyw gangen oer gwynfannus oddiar Fedd newydd, newydd adfail o ddynoliaeth Rhyw galon wedi pallu gwaedu mwy A lledu clwyf bodolaeth; boed yr oll fywyd sydd yn werth ei godi uwchlaw Y bedd, a'i blannu ar uchelion cof, Dan nos dragwyddol,- OS ANGHOFIAF DI, FY NGWLAD, FY NGHYMRU. - William Thomas (Islwyn)