Contributed by: Darren Wyn Rees
Mae Deigryn Ar Y Rhosyn Hardd Mae deigryn ar y rhosyn hardd, Mae'r gwlith yn wylo ar y lili; A'r awel oeraf dery'r ardd, A chwyth ei hanadl wywdra drwyddi; Ac nid y bardd yn unig sydd Yn wylo dan drallodau prudd. Mae Natur deg yn colli ei gwrid, A'i rhos i gyd yn marw; Dynoethir hi o'i gwisgoedd haf, A'i blodau gaf yn welw; Ac O, paham na chollwn i Aml rosyn hawddgar gyda hi? Y mae fy mlodyn yn y bedd, A'i wedd yn isel heno; Ond pam yr wylaf ar ei ol? Mae blodau'r ddo+l yn wylo; A throir yr ardd bob gauaf blin Yn fynwent oer i'w rhos ei hun. Mai, 1854 - William Thomas (Islwyn)