Contributed by: Darren Wyn Rees
O LEIED A FEDDYLI. "Ac efe a ddaeth, ac a'u cafadd hwy yn cysgu drachefn canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau." - Matth. - XXVI. 43. O, leied a feddyli, Seion wiw, Am awr a natur gweithrediadau 'th Dduw, Y moddion, pwy a'u dywed? A'r eiliadau Y seilir y tragwyddol ar eu dyfaion weithrediadau? Eiliadau sydd yn rhoi rhyw newydd wedd Ar ysbryd-fydoedd y tu draw i'r bedd; O fewn y rhai mae oesoedd yn ymgronni A mwy o Dduw i'n gwydd yn d'od, a mwy o'r pell oleuni Nag yn holl hanes creadigaeth fawr, - Pan roddir i'r anfeidrol ffurf, ac i'r tragwyddol wawr; Y cymer un o'r Duw-feddyliau nerthol Ger bron y byd y wedd o ffaith anfeidrol. Y mae ei lwybrau Ef ym moroedd amser, Arweinia ei feddyliau i mewn o'r dyfnder O dan y byd, i'w cylchoedd gogoneddus Fel ser, yn araf, distaw, gorfawreddus. Ac nid yw neb yn sylwi. Nid oes llygad Yn agor tua gwawrle y dwyfol ymddanghosiad. O leied wyddom pan fo'r byd a'i oesoedd Yn crynnu rhwng y tragwyddolion nerthoedd. O Amser, 'roedd cysgodion d' oesau i gyd O fewn yr Ardd, a'u holl gasgledig lid; Nos erfawr o euogrwydd ac o wae O amgylch yr Anfeidrol yn ymgau. Tynghedfen y ddynoliaeth yno gaed Yn crynnu yn y cysgod, a dyferynau o waed Trymach na bydoedd yn dyhidlo i lawr, A'r dwyfol fywyd yn dyfohau eu gwawr. Eiliadau o anfeidrol bwys! Pan roed Dy hedd dynghedion di, O fyd, A'th ddwyfol drefn ar droed; Pan ddaeth y dwyfol oll o dan dy faich, Pan syrthiaist oll, oll ar y ruddwawr fraich. "Aroswch yma, a gwyliwch gyda mi," Yr oedd y byd yn huno, onid tri, A hwythau yn trymhau. O Geidwad mawr, 'Roedd swn maddeuant ar dy eiriau'n awr; Ac yn eu cwsg ti wenaist arnynt hwy, Yr oedd yr iawnol waed yn dyferynu mwy, Ac oesoedd fyrdd o faddeu wedi cychwyn, A'n holl ddyfodol yn dyddhau, yn agor yn ddi-derfyn. Gorffwyswch bellach, daeth yr awr, yr awr Sy'n gofyn Duw i gyd yn lle y tragwyddoldeb mawr. - Chwefror 19, 1856.