Contributed by: Darren Wyn Rees
O Pam Yr Wylem O pam yr wylem tra yn ysgwyd llaw Yr olaf waith ar diriogaethau amser A chyfaill hoff, i'r Iesu cyfaill, pan Yn lledu ei aden ar wybrennau eilfyd? Mynd adref mae, mynd adref at ein brawd, Ein brawd, sydd yno ar yr orsedd uchaf Yn Frenin, eto'n frawd fel cynt i ni; Un sydd yn disgyn oddiar y fainc, O'i fodd, i agor y tragwyddol byrth O led y pen i'w bererinion blin, Ei frodyr, ei brynedig, pan eu gwel Oddiar bellaf-gwrr amser yn trylamu I eangder tragwyddoldeb, ar eu taith I fyny i'w gorffwysdra, heibio'r ser Ym mreichiau engyl. Drugarocaf Un, Sydd acw'n barod i'w croesawu i mewn I'w ddisglaer balas a'i lawenydd mwy, Paham yr wylem pan yn canu'n iach I ysbryd addfed i ogoniant? Dos, ddedwydd ysbryd. Addas wyt i'th le, Mae'r oruchwyliaeth drosodd gyda thi, A'r olaf linell wedi ei thynnu mwy. Ddisgleiriaf seren, symud di i'r lan, Uwchlaw yr haul a chylchoedd amser oll, A thaen dy lewyrch dros wybrennau gloewach. Dos, ddedwydd ysbryd. Mwyach ar dy ol Ni wylaf. `Rwyf yn gweled drwy dy wedd, Ac O, y mae'r olygfa'n deg tu draw. - William Thomas (Islwyn)