Contributed by: Darren Wyn Rees
Ofnadwy riw yw hwn. A rhaid i mi Ei dringo i'r lan, neu golli'r llwybr cul; A chyda'r llwybr y baradwys well, A'r ddinas deg, ar uchelfeydd y nef Sy draw'n ymgodi, a'i phalasau fyrdd Yn cuddio eu tyrau mewn wybrennau aur? "Nac ofna di, fy nisgybl! Bum o'th flaen Fy hun yn teithio'r ffordd gerigog hon, I fyny dring, i fyny i'th orffwysfa." `Rwy'n gweld y llwybr. Hyd-ddo teithiaf mwy, Mae olion ei gerddediad yn y byd Yn eglur oll. Esiampl berffaith yw, Llawn o brydferthwch. `Rwyf yn gweld Rhagorion fyrdd mewn un cymeriad gla+n,- Dyn, angel, Duw, oll yn yr unrhyw ddrych; Dyn fel y bu, a'r Duwdod fel y mae. Edrychaf yma, `r aflan, nes disgleirio Ei ddelw o'm mewn ar wedd ddifeius mwy; Aruchel wyrth, O pwy a'i cwblha? Dad, cymer fi i'th law, a gwna fi oll O newydd; egwyddorion newydd dod Yng ngwraidd fy natur, a diwreiddia'r hen. Ac O amlyga `th allu cre%ol mwy I iawn adferu fy serchiadau i drefn, Sy heddyw'n dryblith ar wasgarfa flin, Angylaidd nerthoedd, yn afradu `u grym Ar wasgedd, ac yn crwydro'n llwyr ddi-ddeddt Dros anial pechod, yn ceisio ac heb gael. Gwnei ddyn yr angel ydoedd pan agorodd Ei lygaid gyntaf ar y wynfaa deg, Ar wely o ros gerllaw y bywiol bren. Yr wyf yn ddeall beth yw'r nefoedd mwy,- Y mae'n ymffurfio ynnog gyda'th ddelw, Y ddau yn un, a Duwdod oll yn oll. - William Thomas (Islwyn)