Contributed by: Darren Wyn Rees
Heno mynnwn am ennyd Ymryddhau o boenau'r byd; A neshau, yng nghwmni'r ser; O dan ffurfafen dyner, Tua'i hunig unig annedd, A gorffwys ar bwys ei bedd. Anwyled, mwyned i mi, Yr annedd lle yr huni! Fy morau olau helynt, Felusion adgofion gynt! Wyt yn dawel tan dywod, Gwiwfan i flinedig fod; Minnau yno, `mhen ennyd, Fe+l hun gaf, wyf flin i gyd. - William Thomas (Islwyn)