Contributed by: David Wood
F'annwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy' enaid, Troist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid. A oedd un llaw drwy'r dref draw i 'nharaw'n annhirion? A oedd ymhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union? Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon, Oni chaf hedd, af i'm bedd i orwedd yn wirion. P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd annwyl? Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl? P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd? Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd: Yn iach i'th wedd, mi wela' 'medd, wan agwedd, yn agor; Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar f' elor? Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoywdeg, Ac uwch y tir ysgrif hir o'r gwir ar y garreg, Mai d'achos di, greulon gri, fu gwelwi'r fau galon, Ai dyma'r pryd daw gynta' i gyd iaith hyfryd o'th ddwyfron? Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'n llan, troi'r fan yn afonydd; Rhy hwyr serch, - felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.