Contributed by: David Wood
Clywais lawer so a siarad Fod rhyw boen yn dilyn cariad, Ar y so gwnawn innau chwerthin Nes y gwelais wyneb Rhywun. Ni wna cyngor, ni wna cysur, Ni wna canmil mwy o ddolur, Ac ni wna ceryddon undyn Beri im beidio a charu Rhywun. Gwyn ac oer yw marmor mynydd, Gwyn ac oer yw ewyn nentydd, Gwyn ac oer yw eira Berwyn, Gwynnach oerach dwyfron Rhywun. Er cael lygaid fel y perlau, Er cael cwrel yn wefusau, Er cael gruddiau fel y rhosyn, Carreg ydyw calon Rhywun. Tra bo clogwyn yn Eryri, Tra bo coed ar ben y Beili, Tra bo dwfr yn afon Alun, Cadwaf galon bur i Rywun. Pa le bynnag bo'm tynghedfen, P'un ai Berriw neu Rydychen, Am fy nghariad os bydd gofyn, F' unig ateb i fydd - Rhywun! Caiff yr haul fachludo'r borau, Ac a moelydd yn gymylau, Gwisgir fi mewn amdo purwyn, Cyn y peidiaf garu Rhywun.