Contributed by: David Price
ALAW, - Bardd yn ei Awen.
Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa un o'r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y dôn yn ddigon ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai
Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen dôn bur,
mwy nag i awen.
Mae Bardd i ddod ryw ddydd, A brenin-fardd ein bryniau fydd, Fe ddaw i Gymru lân; Ei wlad a glyw ei lef, A ni a phawb a'i hoffwn ef, Pan gwyd pen gawr y gân; Fe aiff i ddwyfol fan, Yn nghiliau dwfn hen galon dyn: Am Hedd fe gân o hyd, Fod angel Hedd yn hel ynghyd, Enwadau 'r byd yn un. Fe ddaw y Bardd i'r byd, A'i gân i ben, O! gwyn eu byd Y dorf a wêl y dydd; Pwy wêl y bore gwyn, Ac heulwen deg cyflawniad hyn, Y fath gyfundeb fydd! Daw bardd i fysg ein plant, I daro tant yn natur dyn; Am Hedd fe gân o hyd, Fod angel Hedd yn hel ynghyd Enwadau 'r byd yn un.