Contributed by: David Price
Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.
ALAW, - Breuddwyd y Bardd. Eisteddai hen fardd yn ei gadair, Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlan; A'i feddwl a hedodd i'r amser Y gwelid ei blant wrth y tân. Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd - Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd. Fe welodd ei hun yn priodi, Genethig anwylaf y wlad; Fe glywodd ei gyntaf anedig Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!" Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu, Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd - Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd. Fe glywai hen glychau Llanarmon, Yn fachgen fe deimlodd ei hun, Breuddwydiodd hen deimlad y galon, Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn. Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt, Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd - Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd. Er na bu un linell mewn argraff O waith y breuddwydiwr erioed; Fe wel ef ei waith yn gyfrolau, A dynion yn rhodio fel coed, A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen, Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd - Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.